

O’r chwith i’r dde: Hannah Corr, Chris Fowler, Amanda Wood
Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o dderbyn cyllid ar gyfer prosiect newydd cyffrous, A Space to Grow – Lle i Dyfu, sy’n cysylltu tyfu a chreu. Rydym yn hynod ddiolchgar i ffrwd ariannu Loteri’r Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Cyngor Celfyddydau Cymru.
Trwy gyfuniad o’r celfyddydau creadigol, byd natur a dysgu a rhannu sy’n seiliedig ar fwyd, rydym yn gyffrous i archwilio manteision unigryw dull synergyddol arloesol o wella lles a chysylltu pobl ledled Caerdydd, Bro Morgannwg a Chymru.
Bydd ein prosiect presgripsiynu cymdeithasol blwyddyn o hyd, Lle i Dyfu, yn canolbwyntio ar y cyfleoedd creadigol y gall tyfu a rhannu bwyd ar draws diwylliannau a chymunedau eu hysbrydoli, gan hyrwyddo cysylltiadau trwy fwyd, cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth amgylcheddol yn ein cymunedau, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau bwyd a chefnogi cymunedau iach.
Rydym yn gyffrous i ddathlu’r cysylltiad dwfn rhwng bwyd, natur a’r celfyddydau ar draws gwahanol ddiwylliannau, gan ddefnyddio ymyriadau arloesol gan gynnwys bolddawnsio ar gyfer iechyd y stumog, perfformiadau ffilm wedi’u hailgylchu, argraffu a lliwio arloesol, barddoniaeth a pherfformiad, ysgrifennu geiriau / cyfansoddi caneuon.
Ein partneriaid yw Urban-Vertical CIC, Practis Meddygol Grange, Grangetown, nifer o wasanaethau BIP Caerdydd a’r Fro, Llyfrgelloedd Bro Morgannwg, Sefydliadau Trydydd Sector a Chymunedol a nifer o artistiaid a sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Flossy and Boo, Dewi Tennatt Lloyd, Dug Al ac Amelia Unity.
Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am ei gefnogaeth wych.
Am mwy o wybodaeth, ebostiwch artsinhealth.cav@wales.nhs.uk