

Mae’n bleser gennym gyflwyno ‘Let the Light Shine’ – arddangosfa o baentiadau olew gan Gek Lim.
Mae Gek yn artist o Singapore sydd wedi bod yn byw yn Ne Cymru ers 2015. Dechreuodd beintio fel hobi ar ôl ymddeol o swydd amser llawn, ac mae hi wedi arddangos ei phaentiadau yn y llefydd y mae hi wedi byw ynddynt – Ulaanbaatar, Penang, a Singapore.
“Mae angen goleuni ac eglurder yng nghanol y newyddion tywyll dyddiol ac anwireddau sy’n cael eu lledaenu’n eang yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae golau mewnol neu reddf yn helpu i’n harwain mewn bywyd sydd, wedi’r cyfan, yn ddawns. Gobeithio y bydd “Let the Light Shine” yn annog gwylwyr i ymlacio, mwynhau harddwch y machlud, a chadw draw oddi wrth elfennau negyddol.
Ers i mi ddechrau gweithio gyda phaent olew yn 2004, rydw i wedi ymddiddori mewn creu darnau o waith celf a allai siarad â’r gynulleidfa ac ysgogi meddyliau a theimladau. I mi, mae peintio yn fodd o ddarganfod neu ddadorchuddio’r hyn sydd y tu hwnt ac o dan wyneb y pethau o’n cwmpas. Ar wahân i greu celfyddyd haniaethol, rwy’n mwynhau peintio nenluniau a morluniau, wedi eu hysbrydoli o bosibl gan fy hoff arlunydd J.M.W Turner, ‘The Painter of Light’. Er mwyn cyflawni tryleuder yn fy mhaentiadau, rwyf fel arfer yn osgoi paent trwchus, sgymblo neu impasto.”
-Gek Lim





