Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Laura Trustcott-Wright, Nyrs Hyfforddwr Rhieni WellChild, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Ionawr. 

Mae Laura wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno ac arwain yr Ystafell Hyfforddi Gwell yn y Cartref gyntaf yng Nghymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’r Ystafelloedd wedi’u cynllunio i helpu i gefnogi rhieni a gofalwyr i ddiwallu anghenion eu plant sy’n ddifrifol wael, mewn man diogel i baratoi ar gyfer darparu gofal yn y cartref. 

Dywedodd Alison Davies, Uwch Nyrs Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc ac Iechyd Teuluol: “O fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro rydym yn  hynod falch o’r gwaith y mae Laura wedi’i wneud fel Hyfforddwr Rhieni WellChild a’r effaith y mae hi wedi’i chael mewn cyfnod mor fyr. Mae gan Laura awch heintus am fywyd ac agwedd ‘gallu gwneud’ sy’n wirioneddol ysbrydoledig. Mae hi’n dangos arweinyddiaeth gref ac yn eirioli dros y plant a’r bobl ifanc yn ei gofal bob dydd.” 

Gallwch ddarllen mwy a gwylio fideo ar y gwaith y mae Laura wedi’i wneud yma

Bydd Laura yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Ionawr ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr. 

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd. 

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. 

Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk  
Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd. 

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr. 

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel! 

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.