Rhoi

Fel rhan o brosiect parhaus y mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ei ariannu, mae dau beiriant dŵr newydd wedi cael eu gosod yn Ysbyty Dewi Sant ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff. Mae modd iddynt lenwi eu poteli dŵr amldro am ddim. Mae’r unedau hyn ger prif gyntedd yr ysbyty, yn ardal Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed.

Fel gyda’r peiriant cyntaf a osodwyd yn Ysbyty’r Barri, bydd y peiriant dŵr yn y prif gyntedd yn gysylltiedig ag Ap y Cynllun Ail-lenwi sy’n galluogi aelodau’r gymuned leol i ail-lenwi eu poteli dŵr amldro am ddim. Ni fydd y peiriant hwn ar gael i’r cyhoedd drwy’r Ap nes bydd y cyfyngiadau symud presennol wedi’u codi a nes bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Mae ymchwil wedi dangos bod oedolyn cyffredin yn prynu mwy na thair potel ddŵr blastig bob wythnos – mae hynny’n cyfateb i 175 o boteli bob blwyddyn i bob unigolyn. Gyda’i gilydd, mae cyfanswm o 7.7 biliwn o boteli plastig yn cael eu prynu ledled y DU, sy’n arwain at lawer iawn o wastraff plastig untro yn y moroedd. 

Ym mis Mehefin 2020, gosododd yr Elusen Iechyd beiriant dŵr yn Ysbyty’r Barri, a hyd yma mae wedi ail-lenwi bron i 4000 o boteli. Cofiwch fod hyn yn ystod y pandemig lle mae llai o bobl o lawer wedi bod yn mynd i’r ysbyty.

Mae’r Hyrwyddwr Lleol, Sue Dickson-Davies o Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, wedi bod yn arwain y prosiect hwn yn Ysbytai Dewi Sant a’r Barri. Dyma hi’n egluro mwy am y prosiect.

“Mae cael peiriant dŵr yn Ysbyty’r Barri wedi bod yn boblogaidd iawn gyda staff ac ymwelwyr, ac rydym wedi cael adborth gwerth chweil a cheisiadau am beiriannau tebyg ar draws y Bwrdd Iechyd. Rydym yn gweithio tuag at gael peiriannau dŵr mewn mannau allweddol fel rhan o ymrwymiad parhaus i ddefnyddio llai o boteli plastig untro, sef y math o sbwriel sy’n cael ei ganfod yn fwyaf aml ar ein strydoedd ar hyn o bryd, gan gynnwys mewn mannau gwyrdd a thraethau.

“Mae’r peiriannau dŵr hyn yn gyfle i ni i gyd sicrhau na fydd mwy o’r math yma o sbwriel yn y dyfodol, ac mae’n ffordd o arbed arian hefyd. Cofiwch ddod â’ch potel amldro gyda chi i’w llenwi!”

Dywedodd Dr Suzanne Wood, Ymgynghorydd mewn Meddyginiaeth Iechyd y Cyhoedd: “Mae sicrhau bod pobl yn yfed digon o ddŵr yn un o flaenoriaethau allweddol cynllun ein partneriaeth i gefnogi pobl ledled Caerdydd a’r Fro i symud mwy a bwyta’n well. Felly rydym yn falch iawn fod dau beiriant dŵr newydd wedi cael eu gosod yn Ysbyty Dewi Sant i helpu pobl i allu cael gafael ar ddŵr yfed.

“Mae sicrhau ein bod ni’n yfed digon yn bwysig iawn i gadw ein cyrff yn iach, ac mae dŵr yn ddewis gwych – mae am ddim, nid yw’n cynnwys calorïau ac nid yw’n ddrwg i’ch dannedd.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein prosiectau parhaus, ewch i www.healthcharity.wales

Ewch i wefan Refill yn www.refill.org.uk i lwytho’r Ap i lawr am ddim a chael rhagor o wybodaeth am y cynllun.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.