Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Kelly Enticott, Therapydd Chwarae ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Awst.

Cafodd Kelly eu henwebu gan y Teulu Spencer, am ei bod wedi treulio llawer o amser gyda’u mab, Jake. Wrth drafod yr enwebiad, dywedodd Rachel, “Mae Kelly wedi gweld fy mab Jake nifer o weithiau i helpu i’w baratoi ar gyfer llawdriniaethau sy’n peri gofid mawr iddo. Byddai pethau syml fel newid ei diwb bwydo PEG neu gymryd gwaed yn cymryd oriau oherwydd yr ofn a’r trawma y mae Jake yn ei brofi.

“Yn ystod ychydig o sesiynau gyda Jake, mae Kelly wedi llwyddo i ddod i’w adnabod cystal nes ei bod wedi canfod yr union beth sy’n gweithio i helpu i’w dawelu. Mae ei sgiliau cyfathrebu anhygoel a’i greddf gyda phlant yn golygu ei fod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arno a’i fod yn cael ei gydnabod.”

Yn 6 oed, mae Jake yn cael trafferth cyfathrebu’n hawdd ac yn uniongyrchol, ond trwy dechnegau a phersonoliaeth wych Kelly, mae wedi dod o hyd i ffyrdd o gael Jake i fynegi ei bryderon. Nawr, mae prosesau newid PEG Jake wedi mynd o gymryd oriau i fater o funudau heb fawr o bryder diolch i amynedd Kelly ac adnoddau wedi’u teilwra.

Meddai Rachel, “Ni allwn ddiolch digon iddi ac rydym yn teimlo ei bod wir yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl – ac rydym yn gwybod nad ni yw’r unig deulu sydd wedi elwa ar weithio gyda Kelly. Diolch yn fawr iawn.

Dywedodd Sue Reardon, Rheolwr Gwasanaethau Chwarae, “Mae Kelly yn aelod ymroddedig a gweithgar o’r Adran Chwarae Therapiwtig. Mae hi’n cefnogi ei chleifion ar eu taith ysbyty drwy adeiladu ymddiriedaeth gyda nhw yn gyntaf i’w galluogi i weithio’n therapiwtig gyda phob un, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol yn y pen draw. Bydd Kelly yn defnyddio dulliau amrywiol o chwarae therapiwtig i alluogi’r plant i oresgyn eu hofn/pryderon ynghylch eu derbyniad i’r ysbyty. Mae hi’n rhan annatod o’r Adran Chwarae Therapiwtig.”

Bydd Kelly yn Arwr Iechyd yn ystod mis Awst ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.