Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Joy Whitlock, Pennaeth Gwella Ansawdd a Diogelwch, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Chwefror.

Gyda record o bron i 45 mlynedd yn y GIG, dechreuodd Joy ei gyrfa fel myfyriwr nyrsio yn Ysbyty St Bartholomew, Llundain. Ar ôl gyrfa glinigol lwyddiannus mewn nyrsio cardiaidd ac ymarfer, camodd Joy i fyd gwella ansawdd (QI), ac mae wedi gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ers bron i 19 mlynedd mewn rolau QI amrywiol.

Roedd Joy yn gynghorydd gwella gyda’r Ymgyrch 1000 o Fywydau ac arweiniodd y rhaglen Arwain Gwelliant mewn Diogelwch Cleifion (LIPS) am 6 blynedd nes i COVID-19 daro.

Dywedodd Ann Jones, Rheolwr Diogelwch Cleifion a Dysgu Sefydliadol, “Sicrhaodd Joy fod LIPS yn rhaglen gynhwysol lle roedd athrawon a phlymwyr yn llythrennol yn yr ystafell gyda’i gilydd yn gweithio ar eu prosiectau priodol. Mae nifer y cleifion a gafodd fudd yn y pen draw o’r gwaith o fewn y rhaglen hon yn anfesuradwy.

“Mae llawer mwy i Joy na welir ar yr wyneb! Mae hi’n artist dawnus; mae hi wrth ei bodd yn cerdded a beicio i gadw’n heini; ond yn bennaf oll mae hi’n mwynhau cysylltu â phobl a’u helpu. Mae Joy yn hollol unigryw! Pan fydd hi’n ymddeol ym mis Mawrth, bydd yn gadael bwlch mawr yn y tîm a fydd yn anodd ei lenwi, ond bydd hi o’r diwedd yn gallu treulio mwy o amser gyda’i theulu a’i hŵyr hyfryd.”

Bydd Joy yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Chwefror ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.