Ddydd Sul 3 Hydref, bydd Marathon Llundain Virgin Money yn dychwelyd i’w gwrs eiconig yng nghanol Llundain 889 diwrnod ers iddo gael ei gynnal y tro diwethaf ym mis Ebrill 2019. Bydd 50,000 o redwyr ar y cwrs traddodiadol o Greenwich i The Mall yn cwblhau 26.2 o filltiroedd y cwrs ac un o’r rhai hynny fydd Jayne Catherall, cefnogwr yr Elusen Iechyd ers amser maith. Bydd Jayne yn codi arian tuag at y Gronfa ar gyfer Gwella, sy’n cefnogi prosiectau sydd ddim yn ffitio’n berffaith i’n cronfeydd pwrpasol – gallant helpu mwy nag un ward, mwy nag un safle ysbyty neu fod yn brosiectau peilot sydd â’r potensial o chwyldroi ein gwasanaethau yn llwyr.
Ddydd Sul 3 Hydref, lle bynnag fydd pobl yn rhedeg y marathon – p’un a ar strydoedd Llundain, neu unrhyw le arall yn y byd yn rhan o’r digwyddiad rhithwir – byddant yn gwneud hynny gyda’i gilydd a hoffwn ddymuno’n dda i bob un ohonynt.
Os hoffech chi gyfrannu a chefnogi Jayne, ewch i
https://www.justgiving.com/fundraising/Jayne-Catherall-runs-London-Marathon