Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Jason Green, Swyddog Diogelwch/Derbynnydd, sy’n gwasanaethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Hydref.

Bob amser yn siriol a chymwynasgar, mae Jason yn gweithio yn Nhŷ Coetir ac mae bob amser yn garedig iawn yn dod i fyny’r grisiau gyda negeseuon a pharseli i sicrhau eu bod yn cyrraedd yr adran gywir, gan drefnu archebion ystafelloedd, a chynnal diogelwch.

Dywedodd Louise Young, Cydlynydd Datblygiad Proffesiynol o fewn Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, “Mae Jason wastad wedi bod yn aelod rhagweithiol a chefnogol o’r tîm ers i ni symud i Dŷ Coetir, gan hebrwng ymwelwyr ac ymgeiswyr am gyfweliadau, parseli ac offer, adeiladwyr a staff Ystadau ym mlaen y tŷ. 

“Yn ystod y pandemig, derbyniodd nifer enfawr o ddosbarthiadau PPE i’n staff ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd (ac eraill), gan eu danfon at fy nesg i’w dosbarthu i’n staff cymunedol ledled Caerdydd a’r Fro.” 

Ers dechrau’r Ganolfan Brechu Torfol yn Nhŷ Coetir, mae Jason wedi bod ar y rheng flaen o ran delio ag ymholiadau gan staff, anawsterau gyda pharcio ceir ac aelodau’r cyhoedd sydd ar goll yn ceisio dod o hyd i’r Ganolfan Brechu Torfol neu newid apwyntiad. Mae wedi bod yn gyfnod arbennig o heriol yn y Dderbynfa! 

Parhaodd Louise i ddweud, “Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn iddo ond mae’n parhau i fod yr un mor garedig, cymwynasgar ac amyneddgar – yn aml yn ysgafnhau sefyllfaoedd gyda’i hiwmor er bod ei swydd bellach yn heriol iawn – achosion o ladrata beiciau llogi, mân ddifrod i geir yn y maes parcio, dronau dros y Ganolfan Brechu Torfol!”

Hoffai tîm yr Elusen Iechyd hefyd ddweud, “Mae Jason yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl bob dydd ac mae’n hynod gymwynasgar i bawb yn y Tîm Elusen Iechyd. Haeddiannol iawn, Jason. Gobeithiwn y byddi di’n mwynhau dy wobr o de Prynhawn Bonheddwr i 2 yn Park Plaza.”

Bydd Jason yn Arwr Iechyd yn ystod mis Hydref ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk  Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.