Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Jamie Bishop, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Ysbyty Athrofaol Cymru wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd.

Caiff Jamie ei ddisgrifio fel un sy’n mynd yr ail filltir i gleifion a staff yn barhaus, ac mae’n aml yn cael ei glodfori am ei garedigrwydd, ei dosturi a’i etheg gwaith rhagorol. Un o nifer o enghreifftiau sy’n dangos pa mor bwysig yw profiad y claf iddo, yw pan brynodd Jamie atodiad penodol ar gyfer ffôn claf fel y gallai ei ddefnyddio wrth orwedd yn wastad ar ei gefn yn sgil anaf i’w asgwrn cefn.

Dywedodd Catherine Morris, Uwch Nyrs Meddygaeth Frys ac Acíwt, “Mae Jamie yn ymgorffori gwerthoedd y BIP ac mae ei gydweithwyr yn ei addoli’n llwyr. Mae’n garedig, yn hoffus ac yn ddoniol iawn, ac yn cefnogi eraill sy’n newydd yn yr adran. Mae’n sicrhau eu bod yn setlo ac yn lleddfu eu pryderon. Fel Uwch Nyrs rwy’n cael fy ysbrydoli gan Jamie, ac mae’n fodel rôl i mi gan ei fod yn fy atgoffa o ba mor bwysig yw hi i aros yn ddigynnwrf o dan bwysau, trin pawb â charedigrwydd, a gwir werthoedd nyrs ofalgar.

“Mae Jamie yn sicrhau bod gan ein cleifion sydd â dementia adnoddau i dynnu eu sylw i’w helpu i deimlo’n gyfforddus mewn amgylchedd anghyfarwydd a bydd yn cynnal eu hurddas trwy eu trin fel unigolion. Gall gweithio mewn amgylchedd mor brysur achosi straen mawr i staff, ac eto mae Jamie yn gwneud ei waith yn ddidrafferth, yn cadw at ei werthoedd a byth yn caniatáu i’w straen ei hun effeithio ar y gofal y mae’n ei ddarparu.

“Ar hyn o bryd mae Jamie yn y brifysgol yn astudio i fod yn nyrs gofrestredig, a bydd y proffesiwn nyrsio yn lle cyfoethocach gyda Jamie ynddo.”

Dymunwn y gorau i Jamie gyda’i radd.

Bydd Jamie yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.