Rhoi

Yn ôl yn 2019 gwnaethom ddathlu llwyddiant Irene Hicks a’r tîm, grŵp anhygoel o bobl, am godi ychydig dros £100,000 ar gyfer ein Hapêl Canolfan y Fron.

Ychydig dros 3 blynedd yn ddiweddarach, a hyd yn oed yn ystod pandemig byd-eang, aeth y tîm rhyfeddol hwn gam ymhellach. Fe wnaethant addasu eu ffordd o werthu, cymryd taliadau a threfnu casgliadau, a hyn oll yn ddiogel gan ddilyn canllawiau cyfyngiadau COVID-19. Yn rhyfeddol, ym mis Awst eleni, gwnaethant gyrraedd eu nod o godi £200,000 ar gyfer Apêl Canolfan y Fron ers iddynt ddechrau ein cefnogi yn 2014.

Yn gynharach y mis hwn, trefnodd Irene, ei ffrind Tracy, eu cynorthwywyr a’u cefnogwyr niferus barti ‘ymddeol’. Yn sgil iechyd ei hun a’i gŵr, mae Irene bellach yn teimlo ei bod angen ei bywyd a’i chartref yn ôl i gael rhywfaint o orffwys haeddiannol o’r diwedd. Mynychodd aelodau o’r Tîm Elusen Iechyd a Mr Sumit Goyal MBE, Llawfeddyg Oncoplastig Ymgynghorol yng Nghanolfan y Fron, i ddangos cefnogaeth a gwerthfawrogiad o bopeth y maent wedi’i wneud.

Mae gan Irene ysbryd cymunedol anhygoel ac mae ei thudalen gwerthu ar Facebook wedi cynnig gwasanaeth gwych i’w chymuned leol a thu hwnt. Mae Irene yn fam gariadus a gollodd dri o’i phedwar mab yn drasig – gan gynnwys dau mewn chwe mis yn unig – ac mae wedi troi marwolaethau ei phlant yn etifeddiaeth anhygoel. Yng ngeiriau Irene, “Mae’n rhaid i mi ddal ati drostyn nhw. Roedd y bechgyn mor falch o’m gwaith ac mae gen i’r gymuned gyfan y tu ôl i mi.

“Pe na bai gen i hyn, byddwn i wedi fy llorio. Does dim byd y gallaf ei wneud i’w cael yn ôl felly rwy’n dal ati.”

Defnyddiwyd peth o’r arian a godwyd i brynu offer ymarfer corff i gampfa a chyllid ar gyfer Uwch Ffisiotherapydd yng Nghanolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae’r cyllid hwn yn ein galluogi i gefnogi unrhyw un sy’n defnyddio’r gwasanaeth gyda rhaglen ymarfer corff rhagsefydlu ac adsefydlu, sydd mor boblogaidd ymhlith y cleifion sydd wedi bod yn rhan o’r sesiynau ffitrwydd, nofio a sesiynau grŵp amrywiol sydd ar gael i’n cleifion.

Dywedodd Sue Dickson-Davies, Uwch Swyddog Codi Arian Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Ni allwn ddiolch digon i Irene a’i thîm o ffrindiau. Nid yn unig y maent wedi cefnogi ein hapêl, ond maent wedi croesawu pobl i’w cartrefi a rhoi oriau ac oriau o’u hamser, wythnos ar ôl wythnos, er mwyn codi swm mor rhyfeddol o arian ar gyfer ein Hapêl.

“Rydym yn falch iawn o allu galw Irene yn ffrind, ac er bod yr ymgyrch codi arian hwn wedi dod i ben, rydym yn gwybod y bydd yn parhau i’n cefnogi mewn ffyrdd llai eraill trwy gynnal ei rafflau a’i nosweithiau bingo. Bydd un aelod o’r tîm, Tracy, yn parhau i werthu ar Facebook ar gyfer elusen arall sy’n agos at ei chalon, felly bydd y gwasanaeth cymunedol gwych hwn yn parhau.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i Irene, Tracy, Jayne, Sue, Linda, Sheryl, Glenn ac unrhyw un sydd wedi cefnogi neu gyfrannu at yr ymdrech godi arian hon. Mae pob un ohonom yma yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Apêl Canolfan y Fron mor ddiolchgar am eu cefnogaeth dros yr 8 mlynedd diwethaf.”

Mae aelodau Pwyllgor Apêl Canolfan y Fron hefyd yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad mwy ffurfiol i ddiolch i’r tîm fis nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Hapêl Canolfan y Fron a’r hyn y gall yr arian a godir ei gefnogi, neu i gael gwybodaeth am unrhyw un o’n hapeliadau, neu i godi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â ni ar fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.