Rhoi

Mae cefnogwr a chlaf ysbrydoledig Canolfan y Fron, Debs Harris, wedi gorffen ei ‘Her Driphlyg’ yn ddiweddar i godi arian ar gyfer Apêl Canolfan y Fron Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Mae ychydig dros dair blynedd wedi bod ers mastectomi cyntaf Debs felly penderfynodd ymgymryd â thair her anhygoel!

· Cerdded 10 Milltir i Ddathlu 10 Mlynedd ers sefydlu Apêl Canolfan y Fron ym mis Medi 2021

· Her Tri Chopa Cymru ym mis Hydref 2021

· Naid Fawr y GIG ym mis Mai 2022 (Y bedwaredd ymgais – wedi’i ohirio’n flaenorol oherwydd y tywydd!)

Yng ngeiriau Debs ei hun, “Rwy’n codi arian at Apêl Canolfan y Fron Ysbyty Athrofaol Llandochau gan na fyddwn i yma heddiw hebddyn nhw. Hoffwn gyfeirio’n arbennig at Tor Collins (Uwch Ffisiotherapydd) a aeth gam ymhellach i’m cefnogi a’m helpu i wella.”

Wrth orffen ei her olaf y mis hwn, a oedd yn “anhygoel!” yn ôl Debs, mae’r ddynes ysbrydoledig hon wedi codi ychydig dros £3,000 ar gyfer ein Hapêl Canolfan y Fron – ymhell y tu hwnt i’w tharged gwreiddiol o £250!

Mae amser o hyd i gefnogi Debs yma: https://www.justgiving.com/fundraising/Debs-Harris1

Ac os yw Debs wedi eich ysbrydoli i ymgymryd â her, gallwch gofrestru ar gyfer ein Her Tri Chopa Cymru yma: https://healthcharity.wales/events/welsh-3-peaks-challenge/

Neu beth am wynebu her fwyaf eich bywyd a chymryd rhan yn Naid Fawr y GIG: https://healthcharity.wales/events/skydive-for-your-nhs/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.