Mae eich rhoddion wedi caniatáu i ni ddod â phleser cerddoriaeth i bobl hŷn yn ein hysbytai yn ystod y cyfnod ynysig hwn. Dyma rai o’r prosiectau rydyn ni wedi gallu eu hariannu gyda’ch help chi:
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi newid eu hymweliadau bob wythnos i sesiynau ar-lein lle gall cleifion a staff ryngweithio gyda thîm bychan o gerddorion. Mae cleifion wedi cael tocynnau a chelfi ac ati er mwyn teimlo’n rhan o’r perfformiad, ac mae hynny wedi dod ag atgofion melys o fod yn rhan o gynulleidfa yn ôl iddynt. Fe wnaeth bawb fwynhau’r perfformiad diweddaraf gan Sian Cameron a Sian Davies yn fawr.

Yr wythnos diwethaf, gydag iPads wedi cael eu gosod ar draws y wardiau, cysylltodd Harmoni Cymru â 20 o gleifion yn Ysbyty Dewi Sant gyda’u sesiwn therapi cerdd cyntaf. Roedd hyn yn caniatáu i gleifion ganu a dawnsio i alawon cyfarwydd gyda help y Tîm Mental Health Matters.

Roedd cerddoriaeth côr y Forget-Me-Not Chorus yn seinio ar hyd wardiau Ysbyty Dewi Sant gyda’u cyfres o gyngherddau awyr agored mewn maes parcio a buarth. Agorodd staff Dewi Sant y ffenestri, a mynd gyda’r cleifion i weld y perfformiadau awyr agored yn ddiogel, gan gadw at ganllawiau pellter cymdeithasol. Mae côr y Forget-Me-Not Chorus wedi perfformio i bobl hŷn ar ein wardiau iechyd meddwl yn Ysbyty Athrofaol Llandochau hefyd.

Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda phob un u’r mudiadau hyn er mwyn gwella llesiant cleifion. Bydd eich cyfraniadau’n ein helpu ni i barhau i allu rhoi’r cyfleoedd hyn a chaniatáu i gleifion hŷn ail-fyw atgofion cerddorol a chreu rhai newydd.
A wnewch chi ystyried cyfrannu drwy’r ddolen ganlynol: https://www.justgiving.com/campaign/artsforhealthandwellbeing