Rhoi

Llongyfarchiadau i Helen Murray sydd, hyd yma, wedi codi £430 trwy JustGiving ar gyfer ei ras gwlad 35 milltir yn Sir Benfro.

Cafodd Helen ei hysbrydoli i godi arian er mwyn darparu offer o’r radd flaenaf i’r Adran Cardioleg Pediatrig, lle mae ei nith, Leia, yn cael triniaeth ar gyfer Clefyd y Galon.

Roedd calon iach gan Leia pan gafodd ei geni, ond mae bellach ganddi gymhlethdodau difrifol. Mae ei stori wedi’i dogfennu ar blog ei mam.

Cafodd Helen gwmni gan gefnogwyr ymroddedig, Kara Ellard, Makala Jones, Karen MacKechnie, Celia Boothman ac Annie Stuart, yn ystod y ras gwlad, wrth ddringo a chroesi afonydd a thraethau tywodlyd.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Helen a’i thîm am godi arian trwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro – mae 35 milltir yn gyflawniad i fod yn falch ohono!

Gallwch chi gefnogi Helen trwy wneud cyfraniad ar ei thudalen JustGiving.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.