
Mae’n bleser gennym rannu bod ein sesiynau canu rheolaidd mewn cydweithrediad â Mind ym Mro Morgannwg yn mynd rhagddynt ac eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar gyfranogwyr!

Mae Nicole a Giordano, ein deuawd cerddorol dawnus, yn cyflwyno sesiynau canu yn Eglwys Fethodistaidd Penarth bob pythefnos ar ddydd Iau.
‘Roedd y grŵp a fynychodd yn wych. Roedd pawb yn cymryd rhan lawn ac fe lwyddom i weithio ar ddwy gân. Mae’r grŵp hefyd wedi rhannu rhai awgrymiadau caneuon, ac rydw i a Giordano yn gwneud ein gorau i’w cyrchu ar gyfer sesiynau yn y dyfodol’
Cawsom lawer o adborth cadarnhaol, dywedodd un cyfranogwr, ‘Roeddwn i’n teimlo’n isel fy ysbryd y bore ‘ma ond ar ôl canu, rwy’n teimlo’n llawer hapusach.’, a oedd yn anhygoel i’w glywed.
Mae Nicole a Giordano, deuawd cerddorol mezzo-soprano sydd wedi’u hyfforddi’n glasurol, yn perfformio’n rheolaidd ledled Cymru a Lloegr. Maent wrth eu bodd yn archwilio amrywiaeth o genres cerddorol i gysylltu â’u cynulleidfaoedd a’r cyfranogwyr, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw ar y prosiect canu cymunedol hwn.
Ariennir y prosiect gan NHS Charities Together ac mae’n gydweithrediad rhwng Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, BIPCAF, Mind ym Mro Morgannwg a’r ddeuawd gerddorol Nicole Boardman a Giordano Ferla, i gefnogi lles meddyliol pobl ym Mro Morgannwg.