Rhoi

Mae’n bleser gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles gyhoeddi menter Celfyddydau Creadigol newydd ar y cyd â Mind ym Mro Morgannwg a’r ddeuawd gerddorol, Nicole Boardman a Giordano Ferla.

Trwy gyllid gan NHS Charities Together, gallwn gefnogi iechyd meddwl a lles y rhai sy’n cymryd rhan trwy sesiynau canu rheolaidd ym Mro Morgannwg.

Gan ddechrau gyda sesiynau yn Neuadd Eglwys Fethodistaidd Penarth, rydym yn edrych ymlaen at sesiynau canu dan arweiniad Nicole Boardman a Giordano Ferla. Mae Nicole a Giordano, deuawd cerddorol mezzo-soprano sydd wedi’u hyfforddi’n glasurol, yn gerddorion ‘Live Music Now’ ac yn perfformio’n rheolaidd ledled Cymru a Lloegr. Maent wrth eu bodd yn archwilio amrywiaeth o genres cerddorol i gysylltu â’u cynulleidfaoedd a’r cyfranogwyr, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar y prosiect cymunedol hwn.

Byddwn yn rhannu newyddion am y prosiect yn rheolaidd, ac yn edrych ymlaen at ddechrau’r sesiynau canu ym mis Ionawr 2023.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.