Bydd tîm ymroddedig o tua 120 o gefnogwyr rhyfeddol yn cwblhau Hanner Marathon Caerdydd ar 1 Hydref 2023 er cof am Greg Lloyd, a fu farw’n sydyn ym mis Awst 2022 ar ôl dioddef ataliad y galon sydyn.
Yr hyn sy’n clymu’r tîm rhyfeddol hwn at ei gilydd yw eu cysylltiad â Greg – ei ffrindiau, aelodau o’i deulu, a’i gydweithwyr – pob un ag ymrwymiad diwyro i gadw ei ysbryd yn fyw trwy eu hymdrechion codi arian. Bydd yr holl arian a godir gan y tîm ymroddedig yn cefnogi’r Ward Gofal Critigol a roddodd y gofal gorau posibl i Greg pan gafodd ei dderbyn i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Roedd Greg yn ffit ac yn iach cyn iddo ddioddef ataliad y galon; roedd wedi cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd sawl gwaith yn y gorffennol, ac roedd hyd yn oed wedi concro Marathon heriol Eryri yn 2019. Roedd ei rôl fel heddwas yn mynnu ei fod yn byw bywyd actif, gan wneud ei ataliad y galon sydyn yn fwy syfrdanol o lawer. Gan nodi holl ymdrechion Greg i godi arian, bydd y tîm anhygoel o 120 yn ei gofio trwy godi arian er anrhydedd iddo.
Dywedodd gwraig Greg, Louise Lloyd: “Mae unrhyw un a oedd yn adnabod Greg yn gwybod mai ef oedd y dyn hyfrytaf, mwyaf diffuant ac roedd bob amser yn barod i helpu pobl eraill. Roedd ganddo wên ar ei wyneb bob amser.”
Mae ei deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr wedi bod yn codi arian ers dros 10 mis er cof am Greg, gan gofnodi eu hymdrechion ar dudalen deyrnged Much Loved, sydd wedi cyrraedd swm anhygoel o £7,162 hyd yn hyn. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i wella’r ardal i deuluoedd ac ymwelwyr yn yr adran Gofal Critigol. Bu mab Greg, Rhys, a’i ffrind, Craig, yn rhedeg yn ras Marathon Eryri ar 29 Hydref 2022, ac fe wnaeth tîm enfawr o gefnogwyr gymryd rhan mewn Parkrun er cof am Greg yn gynharach eleni.
Bydd eu hymdrechion codi arian ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd eleni yn cefnogi Ysbyty Athrofaol Cymru i gynnal ymchwil newydd i Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty (OOHCA) a fydd yn cynnig mwy o atebion i sut a pham ei fod yn digwydd, ynghyd â ffyrdd y gellir ei drin a’i atal.
Mae ymchwil gyfredol wedi dangos bod llai nag 1 o bob 10 o bobl yn y DU sy’n profi OOHCA yn goroesi, sy’n rhywbeth y mae’r tîm yn benderfynol o’i newid. Nid yw teulu Greg byth eisiau i unrhyw un arall gael yr un profiad â nhw, a’r boen o golli rhywun mor sydyn heb unrhyw rybudd ymlaen llaw.
Mae’r grŵp hynod ysbrydoledig hwn o bobl eisoes wedi cyrraedd £5,271 o’r targed codi arian uchelgeisiol o £20,000 ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2023. Os hoffech chi ddangos eich cefnogaeth, a chwarae eich rhan yn achub bywydau’r rhai sy’n dioddef ataliad y galon, cyfrannwch ar dudalen JustGiving y tîm.
Mae’r holl gariad a gwerthfawrogiad sydd wedi’i ddangos i Greg yn wirioneddol ysbrydoledig, ac ni allwn ddiolch digon i’r tîm am eu hymroddiad i gefnogi’r Ward Gofal Critigol, a hyrwyddo ymchwil sydd â’r nod o ddiogelu bywydau’r rhai sy’n dioddef ataliad y galon.