Donate

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Hyrwyddwyr Dementia Caerdydd a’r Fro drwy gronfa Loteri’r Staff. Wedi’i drefnu gan y Tîm Dysgu a Datblygu Dementia sy’n arwain safonau dementia Cymru Gyfan (grŵp grymuso’r gweithlu yng Nghaerdydd a’r Fro), nod y gwobrau chwarterol yw meithrin newid diwylliant cadarnhaol, a galluogi cydweithwyr i gysylltu a dathlu eu gwaith gwych.

Mae ystadegau’n awgrymu bod dros 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i’r nifer hwn gynyddu. Yn 2022 lansiwyd Safonau Dementia Cymru Gyfan gyda gweledigaeth i gysylltu a gwella gofal dementia ar draws y boblogaeth a lleoliadau gofal. Nodwyd Mawrth 2022-23 fel blwyddyn baratoi ar gyfer gweithredu safonol ac wrth i’r cyfnod hwn ddirwyn i ben, roedd y Tîm Dysgu a Datblygu Dementia eisiau cynnig cyfle i’r gweithlu gysylltu ar draws y rhanbarth a dathlu’r gwaith ysbrydoledig sy’n cael ei wneud yn ddyddiol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gefnogi pobl â dementia.

Roedd arian Loteri’r Staff yn cefnogi’r gwobrau chwarterol, gyda’r timau’n cael eu beirniadu yn ôl y categorïau canlynol:

  1. Ymgysylltu â’r Gymuned – Dathlu grwpiau, partneriaethau, cadw gofal yn agos at y cartref a gofalwyr di-dâl.
  2. Gofal Cymhleth – Gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gweithgareddau ystyrlon a chynhwysiant, eiriolaeth, ailalluogi.
  3. Siarter Ysbyty Dementia – Gwella profiadau mewn lleoliad ysbyty
  4. Mynd Gam Ymhellach – Person/tîm sydd wedi dangos gwerthoedd BIPCAF a gwella bywydau pobl â dementia a/neu ofalwyr di-dâl.

Derbyniodd Chwarter 1 2023 o’r gwobrau hyrwyddwr dementia 12 enwebiad gwerth chweil iawn i unigolion a thimau ar draws ein partneriaeth. Mae’r Tîm Dysgu a Datblygu Dementia yn estyn eu diolch i bawb a gymerodd yr amser i enwebu a rhannu’r gwaith gwych sy’n digwydd mewn Gofal Dementia ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Llongyfarchiadau i’r Tîm Ffisiotherapi Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn sydd wedi derbyn y wobr am y chwarter cyntaf. Dywedodd y panel fod ‘y tîm ffisiotherapi yn sefyll allan fel enghraifft ragorol o ddiwylliannau cynhwysol a chadarnhaol mewn dulliau gofal dementia ac mae’n amlwg yn ymdrechu i gefnogi pobl i gyflawni eu potensial’.

Roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gefnogi’r gwobrau wrth iddi ddathlu’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud yn ddyddiol gan y staff sy’n gofalu am bobl sy’n byw gyda dementia. Bydd y gwobrau hefyd yn cysylltu cydweithwyr ac yn annog sgyrsiau am ddementia.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff am gyfle i ennill £1,000 yr wythnos, gellir llenwi ffurflenni cais trwy ein gwefan. Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i gael manylion.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.