Rhoi

Cyflwynodd Katie Simpson, Rheolwr Gwasanaeth gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, gais i wella’r cyfleusterau yn y Ganolfan i Blant yn Ysbyty Dewi Sant i gydymffurfio â chanllawiau COVID-19 ar gyfer mannau cyhoeddus a gweithleoedd. Byddai hefyd yn cynnig amgylchedd mwy bywiog a chyfforddus i staff, ymwelwyr a chleifion.

Mae Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn cefnogi plant a phobl ifanc o enedigaeth hyd at 18 mlwydd oed, gan ddarparu gwasanaethau gofal integredig i blant ag anableddau, anawsterau datblygiadol ac ymddygiadol, yn ogystal â phryderon lles emosiynol ac iechyd meddwl. Mae’r staff yn y Ganolfan i Blant yn dîm o weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd wedi ymrwymo i gyflwyno gofal o ansawdd uchel parhaus i’w cleifion, ac eisiau sicrhau bod y profiad o ddod i’r ganolfan mor ddiogel a chadarnhaol â phosibl.

Dywedodd Katie Simpson: ‘Yn seiliedig ar ddarpariaeth y gwasanaeth cyn COVID, byddem yn disgwyl i tua 1000 o blant a phobl ifanc elwa ar y cyfleusterau newydd bob mis. Yn unol â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, bydd y rhif hwn yn disgyn i gapasiti o tua 25% tan ei bod hi’n bosibl i ailgydio yn y gwasanaethau yn llawn.’

‘Hoffem gael cyfleuster addas at y diben er mwyn ein galluogi i ddarparu’r gofal a’r profiad gorau a mwyaf diogel posibl i’r holl blant a phobl ifanc sy’n defnyddio ein hystod amrywiol o wasanaethau yn y ganolfan i blant.’

Cafodd y cais ei gymeradwyo, ac mae’r gwelliannau wedi’u gwneud a’r dodrefn wedi’u gosod yn y Ganolfan i Blant gan sicrhau bod amgylchedd cyfforddus a diogel yn cael ei gynnig i gleifion, ymwelwyr a staff y Ganolfan i Blant yn Ysbyty Dewi Sant. Mae’r dodrefn yn cadw at edrychiad tawel a chadarnhaol y Ganolfan i Blant tra’n sicrhau bod y gofod yn cydymffurfio â’r rheoliadau COVID-19 swyddogol.

Mae’r gwelliannau hefyd yn caniatáu i weithgareddau wyneb yn wyneb cleifion ddigwydd yn fwy aml, wrth gadw pellter cymdeithasol, sy’n golygu nad oes effaith ar ansawdd y gwasanaeth a roddir gan y gweithwyr gofal iechyd o ganlyniad i’r canllawiau COVID-19 presennol.

Yn ôl y staff sy’n gweithio i’r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd: ‘Mae’r cadeiriau a’r soffas yn fawr a chyfforddus iawn; mae’r lliwiau llachar yn cyd-fynd â’r ardal ac maent yn teimlo’n fwy addas ar gyfer canolfan i blant. Maent hefyd yn gwneud i’r ardal edrych yn fwy modern ac yn hwyluso’r gwaith o Atal a Rheoli Heintiau gan fod modd eu golchi’n rhwydd. Mae’r rhain, yn ogystal â’r llawr newydd, yn gwneud i’r ganolfan edrych fel lle gwahanol iawn.’

Dywedodd Lindsay Lowe, Rheolwr Gweithredol/Gweinyddol y Grŵp Gofal: ‘Mae’r dodrefn a’r llawr yn ychwanegiadau i’w croesawu, ac mae’r Ganolfan i Blant bellach yn edrych fel lle mwy cyfeillgar o lawer’.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.