Donate

Yn ddiweddar, mae Panel Cynigion Loteri’r Staff wedi cefnogi cais i ddod â sesiynau crochenwaith therapiwtig, a ddarperir gan y tîm Therapi Galwedigaethol a Cardiff Pottery Workshops, i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion sy’n cael eu Hadsefydlu yn Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Cyflwynwyd y cais gan y tîm Therapi Galwedigaethol sy’n gweithio ar draws 4 ward cleifion mewnol yn Hafan y Coed. Mae’r tîm yn gweithio ochr yn ochr â chleifion ag ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, sy’n aml yn arwain at dderbyniadau hir yn yr ysbyty. Mae’r prosiect yn ymateb i ddiffyg amrywiaeth diweddar o weithgareddau y gall cleifion gymryd rhan ynddynt, a waethygwyd gan y pandemig.

Mae crochenwaith wedi bod yn arf hirsefydlog mewn lleoliadau iechyd meddwl i ddiwallu’r anghenion hyn, a gefnogir gan ystod o ymchwil manwl. Mae cyllid y Loteri i Staff yn cwmpasu rhaglen 12 mis gychwynnol i gefnogi ymgysylltiad, lles, sgiliau rhyngweithio cymdeithasol ac ysgogiad synhwyraidd cleifion mewnol, yn ogystal â darparu gofod ar gyfer mynegiant creadigol.

Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal gan y Tîm Therapi Galwedigaethol, ochr yn ochr â Cardiff Pottery Workshops, stiwdio serameg leol sydd â’r nod o sicrhau bod crochenwaith ar gael i bawb. Mae ganddynt gyfleusterau lle cynhelir cyrsiau mewn taflu ac adeiladu â’r dwylo, yn ogystal ag amrywiaeth o grwpiau cymunedol (Grŵp Te a Chrochenwaith 60+, ReFire – Dosbarthiadau Crochenwaith Am Ddim i’r rhai sy’n dioddef o iselder, a Blas ar Daflu i Rieni a Phlant). Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan: https://www.cardiffpotteryworkshops.com/.

Dywedodd Tracey Maton, Therapydd Galwedigaethol: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac mae gallu cael canlyniad/cynnyrch ar y diwedd wedi bod yn gymhelliant ac yn ysgogiad enfawr i bobl barhau i fynychu. Mae Kelly wedi gwneud y sesiynau’n groesawgar ac yn hygyrch i bobl sydd â lefelau sgiliau amrywiol; rydym yn gobeithio y gallwn barhau y tu hwnt i’r 12 mis gan ein bod eisoes yn gallu gweld yr effaith gadarnhaol.”

Mae’r tîm hefyd wedi cael adborth ardderchog gan gyfranogwyr y gweithdai crochenwaith:

“Mae’n gyfle da i ddysgu sgil newydd.”

“Mae’n amgylchedd diogel a chyfforddus gan fod Kelly mor gyfeillgar.”

“Mae’n gynhwysol hyd yn oed i’r rhai sydd ddim yn ystyried eu bod yn greadigol.”

“Mae rhai’n hoffi dangos yr hyn maen nhw wedi’i greu i’w teulu a’u ffrindiau ac yn teimlo ymdeimlad o gyflawniad.”

“Mae’r staff wedi sylwi ar fwy o gyfathrebu rhwng y cyfranogwyr – yn canmol gwaith ei gilydd ac yn bod yn gefnogol i’w gilydd yn gyffredinol.”

“Mae’n gyfle i’r rhai sy’n arbennig o dawel i fynegi eu hunain trwy grochenwaith lle nad oes disgwyliadau na phwysau.”

Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle gwych i ail-integreiddio cleifion ar draws sawl ward a chynnig manteision addysgol i gleifion, gyda’r gobaith o dderbyn cymhwyster ar ôl cwblhau’r cwrs. Mae’n bleser gan Banel Cynigion Loteri’r Staff gefnogi’r prosiect, gan ei fod yn hyrwyddo lles cleifion trwy ddefnyddio celfyddydau creadigol, ac mae’n ffynhonnell werthfawr o hunanfynegiant a threfn.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.