Yn ddiweddar, ariannodd y Loteri i Staff brosiect i ddarparu rhaglen gomedi ar-lein i ddefnyddwyr y Gwasanaeth ar gyfer Anhwylderau Bwyta Risg Uchel. Cyflwynwyd y cwrs gan Dave Chowner, digrifwr ‘stand-up’ proffesiynol sydd wedi gwella o anhwylder bwyta, trwy 6 sesiwn tiwtora wythnosol 1 awr ar gyfer grŵp o 10 unigolyn.
Roedd y sesiynau ar gael i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ogystal â staff, a buont yn fuddiol iawn i’r ddau grŵp. Roedd y cwrs yn gyfle gwych i gleientiaid y gwasanaeth wella eu hyder, pendantrwydd, hunaniaeth gymdeithasol a’u hagwedd tuag at adferiad o’u hanhwylder bwyta. Roedd y staff yn ei ddefnyddio i reoli straen, gwella sgiliau cyfathrebu, a gwella eu lles.
Mae Dave Chowner a gyflwynodd y sesiynau yn awdur, digrifwr ‘stand-up’, cyflwynydd ac ymgyrchydd iechyd meddwl. Fel rhywun sydd â phrofiad personol o anhwylder bwyta, mae Dave yn defnyddio comedi i newid y naws o amgylch y pwnc hwn. Mae ei gyrsiau wedi’u cynllunio i ddysgu comedi ‘stand-up’ i bobl sy’n profi problemau iechyd meddwl, a dangoswyd eu bod yn gwella hyder, cyfathrebu a chysylltiad â phobl eraill.
Er nad oedd y cwrs yn ffurf swyddogol o therapi neu driniaeth, roedd yn ategiad ardderchog i raglen therapi’r tîm. Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid oedd y gwasanaeth yn gallu darparu gweithgaredd grŵp ar gyfer eu cleientiaid bryd hynny, felly bu’r cwrs yn boblogaidd ymhlith defnyddwyr y gwasanaeth, gan eu helpu i baratoi ar gyfer ymwneud â therapïau’r tîm yn ddiweddarach. Roedd hefyd yn helpu defnyddwyr y gwasanaeth i frwydro yn erbyn unigrwydd yn ystod cyfnod anodd iawn o ynysu ar anterth y pandemig COVID-19.
“Roeddwn i’n meddwl bod y cwrs yn wych. Roedd yn hwyl rhoi chwerthin i mewn i bob wythnos pan mae pethau’n galed ac roedd yn braf roi agwedd ddoniol ar salwch ac embaras. Mae wedi fy helpu i edrych ar bethau mewn ffordd fwy doniol.” – Rachel
“Roedd yn llawer mwy na’r disgwyliadau oedd gen i. Rwy’n cyfaddef yr oeddwn yn ansicr ynghylch y cysylltiad rhwng comedi, anhwylderau bwyta ac adferiad. Mwynheais y cwrs yn fawr! Esboniodd Dave y theori a’r seicoleg sylfaenol y tu ôl i’r cyfan yn dda. Roedd popeth yn glir ac wedi’i strwythuro’n dda. Roeddwn i’n hoffi pa mor rhyngweithiol ond di-straen oedd pob sesiwn. Mae’n rhywbeth y byddaf efallai hyd yn oed yn ei ystyried wrth symud ymlaen!” – Amy
Bu’r sesiynau’n llwyddiant ysgubol gyda chleientiaid y gwasanaeth, ac maent wedi bod yn arf gwych i feithrin eu hyder a’u cysylltiad dynol. Mae’r prosiect hwn hefyd yn enghraifft wych o sut y gellir defnyddio arian y Loteri i Staff i wella bywydau cleifion a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Os ydych chi’n gyflogai gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn awyddus i helpu i ariannu prosiectau fel hwn, ac am gyfle i ennill £1,000 yr wythnos, gallwch lenwi ffurflenni cais yma.
Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i gael manylion. Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?