Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles gefnogi aelodau tîm Gwasanaeth Iechyd y Pelfis, sydd bellach wedi’i leoli yn Ysbyty’r Barri, er mwyn eu galluogi i lonni’r gwagle yn y coridor y tu allan i’w hardaloedd clinig.

Nod Canolfan Iechyd y Pelfis, gwasanaeth newydd yn Ysbyty’r Barri, yw darparu cymorth, cyngor ac opsiynau triniaeth sy’n canolbwyntio ar y claf er mwyn rheoli anhwylderau llawr y pelfis. Maent am leihau amseroedd aros a gwella gwasanaethau iechyd y pelfis yn ardal Caerdydd a’r Fro, tra’n cynnig amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar i’w cleifion. Dyma oedd cyfle’r Elusen Iechyd i wneud ei rhan.

Gan ddefnyddio cronfeydd elusennol a gweithio gyda Grosvenor Interiors sydd wedi ein cynorthwyo ar lawer o brosiectau ar draws y Bwrdd Iechyd, y syniad oedd dod â rhywfaint o olau a lle i mewn i ardal goridor mewnol yr ysbyty, ac rydym yn siŵr y byddwch yn cytuno bod yr addurniadau newydd ar y wal yn ychwanegiad i’w groesawu’n fawr. Gall cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wneud cymaint o wahaniaeth i brosiectau fel y rhain, gan alluogi gwelliannau i wagleoedd sydd fel arall yn annymunol, yn dywyll ac yn ddigalon.

Dywedodd Sally Keenan, Cydlynydd Gwasanaeth Iechyd y Pelfis, “Alla i ddim credu’r gwahaniaeth yn y coridor, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth ac mae pawb yn sôn amdano.”

“Hoffem ddiolch i’r Elusen Iechyd am ariannu’r lluniau yn y coridor, sydd wedi dod yn destun sgwrs gyda’r holl staff ac ymwelwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth am hyn, neu am brosiectau eraill a gefnogwyd gan yr elusen, cysylltwch â’r Elusen Iechyd: fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.