Rhoi
O’r chwith i’r dde: Adam Glencross, David Glencross, Vicky Ansell, Jon Rowe (yn codi bawd), Jon-Paul Glencross a Marcus Evans

Llongyfarchiadau i’r tîm a gwblhaodd Her y Tri Chopa Cenedlaethol ar ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf i godi arian ar gyfer yr Uned Niwrolawfeddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Disgrifiodd Victoria Ansell, Adam Glencross, David Glencross, Jon-Paul Glencross, Marcus Evans a Jon Rowe eu hunain fel ‘unigolion sy’n yfed cwrw ac yn caru’r dafarn’ a gwnaethant lwyddo i gwblhau’r her mewn amser anhygoel o 27 awr, 58 munud a 30 eiliad, a oedd yn cynnwys 4 awr o oedi ar y draffordd rhwng Ben Nevis a Scafell Pike. Gwnaethant godi swm arbennig o £3,500!

Dywedodd Alan Glencross: “Y rheswm dros ymgymryd â’r her oedd bod mam Vicky wedi darganfod fod ganddi diwmor mawr ar ei llabed flaen yn gynharach yn y flwyddyn, a bod angen llawdriniaeth frys i’w thynnu cyn iddi dyfu’n fwy. Mae’r driniaeth ragorol a gafodd gan y staff ar yr Uned Niwrolawfeddygol wedi galluogi Debbie i wella’n llwyr ac roeddem eisiau codi arian ar gyfer y tîm fel ffordd o ddiolch iddynt am eu gwaith caled a’u hymroddiad i drin eraill.”

“Hoffem sôn yn arbennig hefyd am Bradley Evans am ein gyrru ni dros y penwythnos ac i Catherine Ansell am yrru’r daith o 3.5 awr o Lerpwl i ymuno â ni i ddringo Scafell Pike gyda’r nos.”

Mae Her y Tri Chopa Cenedlaethol yn digwydd ar draws Lloegr, Cymru a’r Alban, lle mae’n rhaid i’r anturwyr sy’n cymryd rhan ddringo Scafell Pike, yr Wyddfa a Ben Nevis, un ar ôl y llall. Cyfanswm pellter llorweddol y copaon yw 26 milltir, a 3,000 metr o ddringfa fertigol.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r grŵp am gwblhau’r her anhygoel hon, ac am godi swm anhygoel o £3,500!

Os oes gennych ddiddordeb mewn codi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk i drafod yr opsiynau.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.