Rhoi

Mae Gordon Jones yn rhedeg ei ffordd tuag at £2,000 er mwyn helpu i godi arian ar gyfer y frwydr yn erbyn canser ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Ar hyn o bryd mae Gordon wedi cofrestru ar gyfer hyd at 8 digwyddiad eleni, ac wedi dewis cefnogi dau achos sy’n agos iawn at ei galon.

Yn ei eiriau ei hun “canser y fron yw’r un sydd wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd, ar ôl colli fy mam a fy chwaer, bron iawn colli ail chwaer a hefyd yn ddiweddar mae ffrind da a theulu wedi gorfod delio â’r peth.  Rwy’n gwybod y bydd unrhyw un sydd wedi wynebu unrhyw fath o ganser yn gwybod pa mor ofnadwy yw e.  Dyna pam rwyf wedi dewis cefnogi Apêl Canolfan y Fron yn Ysbyty Llandochau sydd yn ddiweddar wedi helpu a chefnogi rhywun rwy’n ‘nabod, ac mae nhw a’u teulu wedi elwa ar eu gwaith da.”

Bydd Gordon hefyd yn cefnogi Mind Matters Cymru yn ystod yr heriau hyn.

Dyma ei amserlen bresennol ac anhygoel –

Hanner Marathon Tirnodau Llundain – 2 Ebrill 2023
Marathon Casnewydd – 16 Ebrill 2023
 Rhedwyr Arfordir Cymru 40 milltir Ultra – 7 Mai  2023
 Marathon Leeds – 14 Mai  2023
 Hanner Marathon Abertawe – 11 Mehefin 2023
 Hanner Marathon y Great North Run – 10 Medi  2023
 Marathon Berlin – 24 Medi 2023
 Hanner Marathon Caerdydd – 1 Hydref 2023

Os hoffech gefnogi Gordon trwy gydol y flwyddyn hon, a chael gwybod mwy am ei resymau dros ddewis cefnogi dau achos gwych, dilynwch y ddolen hon: https://www.justgiving.com/crowdfunding/daisygordonjones-2023-milesforsmileschallange

I ddysgu mwy am gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a’n Hapêl Canolfan y Fron, cysylltwch â ni yn: fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.