Mae Gordon Jones yn rhedeg ei ffordd tuag at £2,000 er mwyn helpu i godi arian ar gyfer y frwydr yn erbyn canser ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Ar hyn o bryd mae Gordon wedi cofrestru ar gyfer hyd at 8 digwyddiad eleni, ac wedi dewis cefnogi dau achos sy’n agos iawn at ei galon.
Yn ei eiriau ei hun “canser y fron yw’r un sydd wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd, ar ôl colli fy mam a fy chwaer, bron iawn colli ail chwaer a hefyd yn ddiweddar mae ffrind da a theulu wedi gorfod delio â’r peth. Rwy’n gwybod y bydd unrhyw un sydd wedi wynebu unrhyw fath o ganser yn gwybod pa mor ofnadwy yw e. Dyna pam rwyf wedi dewis cefnogi Apêl Canolfan y Fron yn Ysbyty Llandochau sydd yn ddiweddar wedi helpu a chefnogi rhywun rwy’n ‘nabod, ac mae nhw a’u teulu wedi elwa ar eu gwaith da.”
Bydd Gordon hefyd yn cefnogi Mind Matters Cymru yn ystod yr heriau hyn.
Dyma ei amserlen bresennol ac anhygoel –
Hanner Marathon Tirnodau Llundain – 2 Ebrill 2023
Marathon Casnewydd – 16 Ebrill 2023
Rhedwyr Arfordir Cymru 40 milltir Ultra – 7 Mai 2023
Marathon Leeds – 14 Mai 2023
Hanner Marathon Abertawe – 11 Mehefin 2023
Hanner Marathon y Great North Run – 10 Medi 2023
Marathon Berlin – 24 Medi 2023
Hanner Marathon Caerdydd – 1 Hydref 2023
Os hoffech gefnogi Gordon trwy gydol y flwyddyn hon, a chael gwybod mwy am ei resymau dros ddewis cefnogi dau achos gwych, dilynwch y ddolen hon: https://www.justgiving.com/crowdfunding/daisygordonjones-2023-milesforsmileschallange
I ddysgu mwy am gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a’n Hapêl Canolfan y Fron, cysylltwch â ni yn: fundraising.cav@wales.nhs.uk