Gyda chefnogaeth Loteri’r Staff, cynhelir Ffair Iechyd a Lles ar ddydd Mawrth 16 Mai yn Neuadd Goffa’r Barri, a hon fydd y cyntaf o’i math i gael ei chynnal yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i gymunedau lleol ddod at ei gilydd ac archwilio’r amrywiaeth eang o wasanaethau a grwpiau a all eu cefnogi i fod yn fwy actif, a’u grymuso i wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer eu Hiechyd a’u Lles. Gwahoddwyd gwasanaethau iechyd, hamdden a chymunedol i gynnal stondin, i rannu manteision cymryd rhan ym mhob gwasanaeth.
Drwy gydol y dydd, bydd hefyd cyfle i’r mynychwyr gymryd rhan mewn cyfres o weithdai 20 munud am ddim a fydd yn ymdrin ag ystod o bynciau ac sydd wedi’u cynllunio i arfogi unigolion ag offer a gwybodaeth ymarferol i wella eu lles cyffredinol.
Dywedodd Liz Willey, Ffisiotherapydd yn Ysbyty’r Barri: “Rydym yn gobeithio, o ganlyniad i fynychu’r Ffair, y bydd ein poblogaeth yn gwneud newidiadau bach i fod yn fwy actif yn gorfforol yn ogystal â chymryd rhan weithredol yn y gymuned, gan arwain at fanteision o ran y corff ac iechyd meddwl.”
Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad, gan gydnabod ei effaith gadarnhaol ar gymunedau Caerdydd a Bro Morgannwg trwy wella eu hiechyd a’u lles. Mae’r ffair hefyd yn rhoi cyfle gwych i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sefydlu cysylltiadau gwerthfawr gyda gwasanaethau iechyd, hamdden a chymunedol er mwyn hybu mwy o gydweithio a chyd-gynhyrchu digwyddiadau a gwasanaethau yn y dyfodol a fydd o fudd pellach i’r cymunedau lleol.
Os ydych chi’n gyflogai gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn awyddus i helpu i ariannu prosiectau fel hyn, ac am gyfle i ennill £1,000 yr wythnos, gallwch lenwi ffurflenni cais yma.
Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i gael manylion. Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?