Mae’r artist, Eve Hart, wedi bod yn hael iawn yn rhoi pum darn celf hardd i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles er cof am ei gŵr a’r gofal a gafodd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Crëwyd y grŵp o baentiadau yn wreiddiol ar gyfer Arddangosfa Oriel yr Aelwyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn 2017 gydag Artistiaid Bro Morgannwg (VOGA).
Yr enw ar gasgliad Eve yw Walking the Corridor, sy’n cyfeirio at sut yr arferai Eve gerdded ar hyd y coridorau hir yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn ystod yr amser a dreuliodd yn ymweld â’r ysbyty.
Mae’r paentiadau gouache ar ddyfrlliw yn darlunio golygfeydd amrywiol o’r coridor llawr cyntaf yn enwedig o erddi’r iard; ardaloedd sydd wedi’u cynllunio i hybu lles cleifion a’u helpu i ymlacio a gwella.
Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn barhaol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau i’w mwynhau gan gleifion, staff ac ymwelwyr.
Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae Eve Hart wedi ei rhoi i Oriel yr Aelwyd ac i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles dros y blynyddoedd.
Os hoffech adael Rhodd yn eich Ewyllys i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://healthcharity.wales/how-you-can-help/gift-in-wills/