Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn talu teyrnged i’r Capten Syr Tom Moore drwy rannu sut mae ei roddion i Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd wedi bod yn cefnogi cleifion, staff a gwirfoddolwyr y GIG ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

  • Enillodd y Capten Syr Tom Moore Record Byd Guinness ar ôl iddo godi £32.8m (£39.3m gyda Chymorth Rhodd) ar gyfer Apêl Covid-19 Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd – y swm mwyaf o arian y mae unrhyw unigolyn wedi’i godi am gerdded er budd elusen
  • Derbyniodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro rodd hael gan Apêl Covid-19 Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd sydd wedi galluogi’r sefydliad i wneud gwelliannau er budd cleifion a staff ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
  • Mae arian yn cael ei ddosbarthu i elusennau’r GIG ar draws y wlad er budd cleifion, staff a gwirfoddolwyr y GIG yng nghanol argyfwng Covid-19

Ar ddechrau’r mis, bu’r DU yn galaru dros y Capten Tom Moore, a oedd wedi codi £32.8m i Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd, drwy gerdded o amgylch ei ardd 100 o weithiau cyn ei ben-blwydd yn 100 oed – gan dorri Record Byd Guinness am daith gerdded gan unigolyn ac ysbrydoli’r genedl.

Er mwyn talu teyrnged i’r Capten Syr Tom Moore, ac i bawb a oedd wedi rhoi neu godi arian eu hunain fel rhan o Apêl Covid-19 Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd, bydd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn rhannu newyddion am sut mae’r cronfeydd wedi helpu i gefnogi cleifion, staff a gwirfoddolwyr y GIG yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Derbyniodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro rodd hael o gyllid grant a oedd yn golygu ei bod yn gallu gwella’r amgylcheddau clinigol er budd cleifion a staff ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Dywedodd Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Cronfeydd Elusennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Roedd y Capten Syr Tom Moore wedi ysbrydoli’r genedl gyfan ac mae wedi gadael gwaddol arbennig i ni i gyd. Tynnodd sylw at bwysigrwydd y GIG ac Elusennau’r GIG a hynny ar adeg lle’r oedd angen i bobl fod yn hael ac yn gadarnhaol yn fwy nag erioed.

“Byddwn yn ddiolchgar i’r Capten Syr Tom Moore a’i deulu am byth am yr hyn maent wedi’i gyflawni. Gobeithio y bydd ei waddol yn parhau gyda’r prosiectau a’r gwelliannau y mae’r Elusen Iechyd wedi’u hwyluso diolch i’w ymdrechion codi arian er budd ein cleifion, ein staff a’n cymunedau ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.”

Dywedodd Ellie Orton, Prif Weithredwr Elusennau’r GIG Gyda’i GIlydd: “Roedd y Capten Syr Tom Moore yn ysbrydoliaeth i ni i gyd a byddwn yn parhau i gofio amdano drwy’r rhaglenni anhygoel y mae elusennau’r GIG wedi’u hariannu. Diolch i’w ymdrechion ef, mae cyllid wedi cael ei ddosbarthu ar hyd a lled y DU i bob un o’n 241 elusen sy’n aelod, ac maent wedi gwneud byd o wahaniaeth ar lawr gwlad, o ran rhoi sylw i anghenion cleifion a staff ar unwaith ac o ran helpu’r GIG i adfer yn y tymor hwy. Bydd ei waddol yn parhau drwy waith Sefydliad Capten Tom.”

O ganlyniad i gefnogaeth aruthrol gan y cyhoedd ledled y DU, mae’r elusen wedi gallu cynnig cefnogaeth mewn galar i’r bobl hynny sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i Covid-19, drwy’r elusennau sy’n aelodau.

Mae prosiectau eraill wedi helpu cleifion unig mewn ysbytai, gan ddefnyddio technoleg i’w helpu i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid yn ystod un o’r adegau anoddaf.

A diolch i’r arian a godwyd, mae’r elusen wedi cefnogi anghenion emosiynol ac ymarferol staff, gan gynnwys rhaglenni cwnsela a llinellau cymorth, er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar eu gwaith yn achub bywydau yn ystod cyfnod pan maent o dan bwysau aruthrol.

Bydd cefnogaeth elusennau’r GIG yn hollbwysig yn y blynyddoedd i ddod wrth i’r gwasanaeth iechyd adfer yn dilyn y cyfnod mwyaf heriol yn ei hanes. Mae Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd yn parhau i weithio gyda’r elusennau sy’n aelodau i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio lle mae ei angen fwyaf, nawr ac yn y dyfodol.
Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd yw’r elusen genedlaethol sy’n gofalu am y GIG. Mae’n helpu i ddarparu cymorth ychwanegol i gleifion, staff a gwirfoddolwyr y GIG, gan weithio drwy’r 241 o elusennau sy’n aelodau sydd wedi’u lleoli mewn ysbytai, ymddiriedolaethau ambiwlans, ymddiriedolaethau iechyd cymunedol, ymddiriedolaethau iechyd meddwl a byrddau iechyd ledled y DU.

Mae Apêl Covid-19 Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd wedi codi cyfanswm o £150 miliwn diolch i gefnogaeth Capten Syr Tom ac eraill. Mae dros £118 miliwn wedi cael ei ddarparu i’n 241 o elusennau sy’n aelodau’n barod er mwyn helpu cleifion, staff a gwirfoddolwyr.

  • I gael rhagor o wybodaeth am Elusennau’r GIG Gyda’i GIlydd, ewch i www.nhscharitiestogether.co.uk
  • I gael rhagor o wybodaeth am Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ewch i www.healthcharity.wales
  • I gael rhagor o wybodaeth am Sefydliad Capten Tom – mudiad annibynnol sy’n gweithio gyda phartneriaid elusennol i gefnogi achosion da sy’n agos at galon Captern Syr Tom a’i deulu – ewch i www.captaintom.org

·

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.