
Mae mis Medi eleni yn nodi carreg filltir bwysig i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wrth iddi ddathlu 20 mlynedd o’r Cynllun Loteri i Staff, menter codi arian sydd wedi trawsnewid lles staff, gofal cleifion a gofal cymunedol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro.
Wedi’i lansio ym mis Medi 2005, crëwyd y Loteri i Staff i godi arian ar gyfer yr Elusen Iechyd gan roi cyfle i staff ennill gwobrau ariannol. Ddwy ddegawd yn ddiweddarach, mae’r cynllun wedi tyfu i fod yn gonglfaen ar gyfer rhoddion elusennol o fewn y sefydliad.
Etifeddiaeth o Roi
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r Loteri i Staff wedi:
- Codi dros £3.7 miliwn mewn cyfraniadau elusennol.
- Dyfarnu mwy na £1.3 miliwn mewn gwobrau, yn cynnwys 6 char, 1 gwyliau, a dros 1000 o enillwyr £1,000 wythnosol
- Ariannu dros £1.7 miliwn mewn prosiectau staff a chleifion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r cyllid hwn wedi cefnogi dros 1000 o brosiectau ar draws BIP Caerdydd a’r Fro.
Mae’r cronfeydd hyn wedi helpu i greu amgylcheddau mwy diogel a thosturiol i gleifion a’r gymuned, a gweithleoedd mwy cefnogol a chyffrous i staff. Mae prosiectau a ariannwyd yn cynnwys:
- £9,468 i’r adran Fferylliaeth ar gyfer lansio KidzMedz Cymru, gan wella diogelwch meddyginiaethau a lleihau gwastraff i dros 500 o gleifion pediatrig.
- £8,622 i’r adran Mamolaeth i osod teils awyr sy’n creu amgylchedd geni tawel, gan gefnogi canlyniadau gwell i bobl sy’n rhoi genedigaeth.
- £9,600 i Adnoddau’r Gweithlu ar gyfer fideos hyrwyddo gyrfaoedd, gan helpu i recriwtio staff i rolau anodd eu llenwi ac arddangos ehangder gyrfaoedd y GIG.
- £10,000 i CEF Caerdydd i adnewyddu mannau aros cleifion, gan wella urddas a lles mewn amgylcheddau diogel.
- £6,400 i Ysbyty Deintyddol y Brifysgol ar gyfer meinciau bwyta awyr agored, gan gefnogi lles staff yn ystod cyfyngiadau COVID-19.
- £8,436 i’r adran Datblygu Ymarfer Proffesiynol ar gyfer offer efelychu eiddilwch a dementia, gan wella empathi ac ansawdd gofal ymhlith nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd.
- £4,824 i’r adran Gwasanaethau Gwirfoddol ar gyfer trolïau llyfrgell ddigidol, gan leihau unigedd cleifion a gwella arhosiadau ysbyty.
“Mae’r Loteri i Staff wedi dod yn rhan hanfodol o’n diwylliant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Nid dim ond y cyfle i ennill yw hi, mae’n ymwneud â rhoi yn ôl. Mae pob punt a godir yn ein helpu i ariannu prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i staff, cleifion a’r gymuned. O wella amgylcheddau clinigol i gefnogi lles staff a mentrau arloesi, mae’r effaith wedi bod yn eithriadol. Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd dros yr 20 mlynedd diwethaf ac yn gyffrous am yr hyn sydd eto i ddod.”
Lucie Barrett, Rheolwr yr Elusen Iechyd
Ymunwch â’r Dathliad – A’r Loteri
Mae holl staff BIP Caerdydd a’r Fro yn gymwys i ymuno â’r Loteri i Staff. Am ddim ond £1 yr wythnos, mae cyfranogwyr yn cael eu cynnwys mewn rafflau wythnosol i ennill £1,000, ynghyd â dwy Wobr Fawr bob blwyddyn.
Ym mis Tachwedd eleni bydd y raffl fwyaf hyd yma — £25,000 . Rhaid i staff gofrestru cyn 15 Hydref i fod yn gymwys.
Gwneud Cais am Gyllid – Hyd at £10,000 Ar Gael
Gwahoddir staff ar draws y Bwrdd Iechyd i wneud cais am gyllid o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau sy’n fuddiol i gleifion, ymwelwyr neu gydweithwyr.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa’r Elusen Iechyd ar 029 2183 6042 neu ebost fundraising.cav@wales.nhs.uk