
Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gomisiynu a chefnogi prosiect ar y cyd rhwng yr artist Louise Jensen a Gwasanaeth Adnoddau Iechyd Meddwl 4 Winds yn rhan o fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, Celf a’r Meddwl | Arts and Minds.
Mae’r fenter ariannu newydd hon yn galluogi Tîm y Celfyddydau i gefnogi rhwydwaith o artistiaid a gweithwyr iechyd proffesiynol i gyd-greu a chyflwyno ymyrraeth gelfyddydol arloesol a chyfleoedd i oedolion sy’n gwella ac sydd angen cymorth iechyd meddwl, adeiladu sgiliau bywyd a rhwydwaith o gefnogaeth o fewn ein cymunedau.
Mae ein prosiect, trwy ‘Celf a’r Meddwl’, yn cysylltu darpariaeth iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd gyda’r gymuned a 4Winds; elusen iechyd meddwl annibynnol, a arweinir gan y defnyddiwr sy’n gweithio ar wella iechyd meddwl a lles yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Wrth weithio ar y cyd â 4 Winds, bydd Louise yn dechrau sesiynau celfyddydau creadigol ym Mhafiliwn Bowlio Gerddi Grange ddydd Mercher 1 Rhagfyr, gan archwilio arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn rhan o gyfres o sesiynau celf, Ysbrydolwyd Gan…
Mae’r sgyrsiau creadigol a’r sesiynau celf yn agored i bawb, ac yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Os hoffech chi ymuno, e-bostiwch 4 Winds i gofrestru ar gyfer y sesiynau: contact@4winds.org.uk
Neu cysylltwch â Louise Jensen: stiwdio3@gmail.com i gael rhagor o wybodaeth am ei hymweliadau â’r amgueddfa a’i gweithdai.