
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gyhoeddi mai Lynda Pinnell, cyflogai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sydd wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Hydref.
Cafodd Lynda, sy’n Nyrs yn ward C7 yn Ysbyty Athrofaol Cymru ei henwebu gan gydweithiwr, Katy Evans o’r Tîm Ymyrraeth Iechyd, am ei bod “yn wirioneddol garedig, ofalgar ac anhunanol” a gan ei bod yn “arddangos gwir werthoedd nyrsio ym mhopeth mae hi’n ei wneud a bob amser yn sicrhau bod y cleifion wrth galon unrhyw sifft”.
Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant nyrsio yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym 1975, aeth Lynda yn ei blaen i weithio yn Ysbyty Dewi Sant gyda chyfnod yn Stratford upon Avon General cyn dychwelyd i Gaerdydd i gwblhau gweddill ei gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac ennill ei gradd o Brifysgol Caerdydd. Yn 65 oed, mae Lynda’n anelu at ymddeol yn 2022.
Dywedodd Katy: “Mae Lynda yn aml yn gweithio mwy o oriau nag sy’n rhaid ac nid yw hi’n gorffwys tan ei bod hi’n gwybod fod popeth wedi’i neud – a byddai’r rhan fwyaf o nyrsys yn cytuno bod rhywbeth i’w wneud o hyd.”
“Mae Lynda yn fentor gwych i fyfyrwyr nyrsio, maent yn ennill cymaint mwy na’r sgiliau technegol pan maent yn ei chysgodi, mae hi’n dysgu sut i weithredu ag unplygrwydd a phwysigrwydd gwneud y pethau bychain.”
Dywedodd Sarah Fergusson, Cyn-reolwr Ward Lynda: “Lynda oedd y person cyntaf i fi weithio gyda hi ar fy niwrnod cyntaf fel nyrs gymwysedig 12 mlynedd yn ôl ar B7. Doeddwn i ddim wedi cysgu, ac roeddwn i mor nerfus. Roedd Lynda mor ofalgar ac fe dreuliodd cymaint o amser gyda fi. Hi oedd Dirprwy Brif Nyrs y Ward. Yn eironig, fi oedd ei rheolwr ward olaf ond un ar ddiwedd ei hymddeoliad.”
“Fe aeth hi yr ail filltir bryd hynny, ac mae’n hi’n dal i wneud nawr. Hi oedd un o’r nyrsys mwyaf caredig a gofalgar rydw i wedi cael y pleser o weithio gyda hi. Mae aelodau staff yn teimlo’n ddiogel pan mae Lynda’n gweithio ar y sifft gan ei bod yn gofalu am bawb ac yn eu meithrin.”
“Pan ddechreuais i ar C7 eleni, yn mynd i ward a oedd yn brin o staff, roedd yn rhyddhad gwybod bod Lynda yno. Ac y byddai’n edrych ar fy ôl yn union fel y gwnaeth 12 mlynedd yn ôl.”
“Mae Lynda’n rhoi gofal o’r radd flaenaf i’r cleifion; y gorau rydw i wedi’i weld. Mae hi’n arwr iechyd. Mae hi’n haeddu’r wobr hon. Yn fwy nag unrhyw un rydw i’n ei adnabod. Mae nyrsys fel Lynda yn bobl prin. Mae Caerdydd a’r Fro yn colli un o’r goreuon pan fydd hi’n ymddeol. Rydw i’n dymuno pob hapusrwydd a heddwch iddi ar ei hymddeoliad. Byddwn yn gweld ei heisiau. Yn ofnadwy.”
Bydd Lynda’n Arwr Iechyd yn ystod mis Hydref ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.
Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.
Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni.
Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd, e-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk
Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.
Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr. Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!