Lindsey Hilldrup, Uned Famolaeth, UHW.
Lydia Harrison, Adran Iechyd Rhywiol, CRI.
Joanna Murison, Therapi Galwedigaethol, Ysbyty Dewi Sant.
Sue Bailey, Bwrdd Clinigol Diagnosteg a Therapiwteg Glinigol, UHW.
Ym mis Mawrth 2021, rhoddodd Loteri’r Staff wobr o £1,000 i bedwar enillydd, ac roedd pob un wrth ei fodd yn clywed y newyddion gwych!
RAFFL FAWR LOTERI’R STAFF – CYFLE I ENNILL £5,000 AR 25 MEHEFIN 2021 A £21,000 ym mis Hydref!
FELLY COFRESTRWCH, DA CHI!
Mae Loteri’r Staff yn cefnogi staff ledled Caerdydd a’r Fro drwy roi gwobrau bob mis. Mae hefyd yn galluogi staff i gyflwyno cais am gyllid i Banel Ceisiadau Loteri’r Staff, sydd wedi rhoi grantiau o dros £1.5 miliwn i gefnogi nifer o brosiectau ar draws Bwrdd Iechyd y Brifysgol, sydd o fudd i gleifion, staff ac ymwelwyr.
Mae modd llenwi ffurflen gais y Loteri yn electronig yma a’i hanfon at fundraising.cav@wales.nhs.uk.