Nicola Agidee, Uned Argyfyngau, UHW
Jodie Harrington, Tîm Nyrsys Ardal Splott
Lucy Allen, Therapi Iaith a Lleferydd Plant, Canolfan Iechyd Glan yr Afon
Catriona Sutton, B4 Hematoleg, UHW.
Natalie Doney, Niwroleg, UHW
Roedd pum aelod o staff wedi ennill £1,000 yn Loteri’r Staff ym mis Ionawr 2021, ac roedd pob un yn hapus dros ben o glywed y newyddion gwych!
Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro sy’n rhedeg Loteri’r Staff a bydd staff GIG Caerdydd a’r Fro yn cael cyfle i ennill £1,000 bob wythnos ac yn cael eu cynnwys yn ein dwy raffl fawr AM DDIM bob blwyddyn.

Mae Panel Loteri’r Staff wedi cymeradwyo cais yn ddiweddar ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn (MHSOP) sy’n gweithio ar draws pum ward cleifion mewnol – organig a gweithredol. Mae’r rhan fwyaf o’r cleifion mewnol wedi cael eu diagnosio â dementia ac maent i gyd ar wahanol gamau.
Dywedodd Carina De Almeida, Technegydd Therapi Galwedigaethol, sy’n gweithio yn yr Adran MHSOP “Fel adran, rydym yn deall mai gofal sy’n canolbwyntio ar y claf yw’r peth pwysicaf. Rydym hefyd wedi gweld bod dull gweithredu synhwyraidd yn gallu helpu’n fawr gyda chleifion yn ystod camau olaf Dementia.”
“Gall Therapi Synhwyraidd helpu i wella gwybyddiaeth a gweithrediad bob dydd, magu hyder i gymryd rhan mewn pethau cymdeithasol, gwella’r gallu i ganolbwyntio a helpu gyda sgiliau cyfathrebu. Mae’r rhain i gyd yn feysydd y gall heriau dementia gael effaith negyddol arnynt, felly mae ysgogiad synhwyraidd, meddyliol a chorfforol ynghyd â therapi atgofion yn gallu bod yn ffordd wych o helpu cleifion â Dementia i gael rhywfaint o annibynniaeth a rheolaeth”.
Mae Loteri’r Staff yn cefnogi staff Caerdydd a’r Fro drwy roi gwobrau bob mis. Mae hefyd yn galluogi staff i wneud cais am arian i Banel Ceisiadau Loteri’r Staff, sydd wedi dyrannu gwerth dros £1.5 miliwn i gefnogi nifer o brosiectau ar draws Bwrdd Iechyd y Brifysgol, er budd cleifion, staff ac ymwelwyr.
Mae modd llenwi ffurflen gais y Loteri yn electronig yma a’i hanfon at fundraising.cav@wales.nhs.uk.