Rhoi
Eich Rhodd
PWYSIG: Os ydych yn dymuno i’ch rhodd fod o fudd i adran nad yw’n cael ei rhestru yn y gwymplen yna gadewch y gwymplen yn wag a nodwch eich dewis yn yr adran sylwadau.
Os ydych chi wedi ticio’r blwch Rhodd Cymorth (Gift Aid )ac os ydych chi’n hapus i’r Elusen hawlio Rhodd Cymorth (Gift Aid ) ar eich rhodd yna nodwch eich cyfeiriad presennol yn yr adran sylwadau.
COFIWCH: Os ydych wedi ticio’r dewis Rhodd Cymorth (Gift Aid) ac nid ydych yn nodi eich cyfeiriad yn yr adran sylwadau yna ni allwn hawlio’r Rhodd Cymorth (Gift Aid).
Bydd ticio’r dewis Rhodd Cymorth (Gift Aid) yn galluogi’r Elusen i hawlio 25% yn ychwanegol ar eich rhodd drwy ryddhad treth gan Gyllid y Wlad. Ni fydd hyn yn costio mwy i chi, cyn belled â’ch bod yn drethdalwr.
Drwy’r dicio’r dewis Rhodd Cymorth (Gift Aid), rydych chi hefyd yn datgan y canlynol;
‘Ydw, rwyf yn drethdalwr yn y DU a hoffwn i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro drin pob rhodd rydw i wedi ei gwneud dros y pedair blynedd diwethaf a phob rhodd y byddaf yn ei gwneud yn y dyfodol (oni bai fy mod yn nodi i’r gwrthwyneb) fel rhoddion Rhodd Cymorth (Gift Aid). Rwy’n deall os byddaf yn talu llai o Dreth Incwm a/neu Dreth ar Enillion Cyfalaf yn y flwyddyn dreth gyfredol na swm y Rhodd Cymorth (Gift Aid) sydd wedi cael ei hawlio ar fy holl roddion, yna fy nghyfrifoldeb i yw talu’r gwahaniaeth.’
Cliciwch yma i reoli eich rhoddion bob mis. Bydd angen y cyfeiriad e-bost a gafodd ei ddefnyddio i osod y rhodd arnoch.