Rhoi

Mae Diwrnod AIDS y Byd yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 1 Rhagfyr st er mwyn tynnu sylw at bandemig HIV, codi mwy o ymwybyddiaeth o HIV ac annog pobl i leisio eu barn ar y stigma ynghylch HIV. Bydd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn nodi’r diwrnod hwn drwy edrych ar y celf y maen nhw wedi’u comisiynu ar gyfer y bobl y mae HIV wedi effeithio arnyn nhw.

Mae Gareth Thomas, un o arwyr rygbi Cymru, yn ffigwr blaenllaw o ran materion LGBTQ+, sy’n defnyddio’i lais i frwydro yn erbyn y stigma sy’n gysylltiedig â HIV. Yn dilyn ei ddiagnosis, mae Gareth yn cael triniaeth a chwnsela rheolaidd gan Adran Iechyd Rhywiol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ac mae wedi ysbrydoli nifer o brosiectau sydd wedi cael eu creu fel rhan o Ymgyrch y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.

Eleni mae Tîm Celfyddydau yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi comisiynu portread o Gareth gan arlunydd lleol, sef Nathan Wyburn. Mae’r portread bellach yn cael ei arddangos yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, a chafodd ei greu gyda phaent coch a blaenau’r bysedd. Mae Nathan yn aelod brwd o’r gymuned LGBTQ+, ac roedd yn hynod o falch o’r cyfle i gael ei gomisiynu i greu’r darn sy’n adlewyrchu ei frwdfrydedd ei hun ynghylch hyrwyddo cydraddoldeb, iechyd meddwl a chwalu rhwystrau.

Dywedodd Rachel Drayton, Cyfarwyddwr Clinigol yr Adran Iechyd Rhywiol: “Mae Gareth yn fodel rôl gwych i gymaint o bobl. Mae’n defnyddio ei statws proffesiynol fel llwyfan i hyrwyddo materion sy’n bwysig iddo, fel cydraddoldeb LGBTQ+, iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth am HIV. Rydyn ni’n gobeithio y bydd arddangos y gwaith celf hwn yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ysbrydoli pobl eraill i ddal ati gyda chryfder a gobaith am y dyfodol.”

Cafodd Gareth ddylanwad cryf ar rywun arall oedd yn defnyddio’r gwasanaeth, a gyfranodd bortread o Gareth i ddangos cydnabyddiaeth o’r gwasanaeth rhagorol a gafodd yn Adran Iechyd Rhywiol Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Terence Higgins. Roedd yr unigolyn hwn wedi dechrau peintio fel ffordd o ddangos ei greadigrwydd a dysgu sgil newydd yn ystod cyfnod heriol iawn yn ei fywyd.

Yn ystod Diwrnod AIDS y Byd eleni, hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro godi ymwybyddiaeth am waith Gareth ynghŷd â’i gryfder wrth siarad am HIV, yn ogystal â phawb arall sy’n codi ymwybyddiaeth, yn lleihau stigma, ac yn annog yr hawl i fynegi eich hun.

Os hoffech chi wneud cyfraniad i gefnogi rhaglen y Celfyddydau yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ewch i: https://www.justgiving.com/campaign/artsforhealthandwellbeing

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.