Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Debbie Hendrickson, Ymarferydd Dadebru, BIP wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr.

Dechreuodd Debbie ar ei thaith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ym mis Tachwedd 1985 ac ar ôl 36 mlynedd o wasanaeth, fe benderfynodd ymddeol ac yna dychwelyd i’w rôl fel Ymarferydd Dadebru.

Disgrifiwyd Debbie fel rhywun sydd wedi ymrwymo i wella ei hun, ei chydweithwyr, ei chyfoedion, a’r staff y mae’n rhoi hyfforddiant dadebru a dirywiad acíwt iddynt. Mae ganddi sgiliau clinigol rhagorol ac mae gwerthoedd ac ymddygiadau’r Bwrdd Iechyd yn rhan hollbwysig o’i gwaith.

Dywedodd Angela Jones, Uwch Nyrs, “Mae Deb yn nyrs ymroddedig, caredig, gofalgar a thosturiol. Rwy’n falch o fod yn rheolwr arni! Mae hi wedi gweithio yn y Gwasanaeth Dadebru ers bron i ddeng mlynedd. Mae ei hymddeoliad yn gyfle iddi deithio, mwynhau mynd ar wyliau yn ei charafán, gwneud ychydig o waith DIY a mentro i fryniau ac arfordiroedd Cymru, heb anghofio treulio amser gyda’i theulu. Mae Deb bob amser wedi bod yn angerddol am gyfuno ei gyrfa nyrsio â’i bywyd cartref.”

Bydd Debbie yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Rhagfyr ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.