Rhoi

Roedd yn fraint gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Apêl Prop fod yn rhan o Ddiwrnod Golff Gwahoddiadol Claire Nokes, lle y daeth llawer o bobl i ddangos eu cefnogaeth, sy’n dangos pa mor uchel eu parch yw Dr Len Nokes a’i wraig Sarah, nid dim ond yn y maes chwaraeon ond yn y gymuned hefyd.  Roedd yn wych gweld cymaint o wynebau enwog, a gyda’r haul yn gwenu ni allem fod wedi gofyn am ddiwrnod gwell.  Mae elusennau fel ein rhai ni yn dibynnu ar gefnogaeth a haelioni gan unigolion, grwpiau a sefydliadau corfforaethol a bydd Apêl Prop yn gwario’r arian a godwyd yn y digwyddiad i wneud pethau’n well i’n cleifion ag anafiadau i’r ymennydd, drwy gyflwyno offer synhwyraidd ymhlith gwelliannau eraill.  

Cododd y digwyddiad swm aruthrol o £16,000 a fydd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng Apêl Prop a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.

Diolch i Len, Sarah a’u mab Chris am ganiatáu i ni fod yn rhan o deyrnged mor brydferth i Claire, a fyddai wedi bod wrth ei bodd â’r thema Prosecco a Phinc. 

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.