Roedd yn fraint gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Apêl Prop fod yn rhan o Ddiwrnod Golff Gwahoddiadol Claire Nokes, lle y daeth llawer o bobl i ddangos eu cefnogaeth, sy’n dangos pa mor uchel eu parch yw Dr Len Nokes a’i wraig Sarah, nid dim ond yn y maes chwaraeon ond yn y gymuned hefyd. Roedd yn wych gweld cymaint o wynebau enwog, a gyda’r haul yn gwenu ni allem fod wedi gofyn am ddiwrnod gwell. Mae elusennau fel ein rhai ni yn dibynnu ar gefnogaeth a haelioni gan unigolion, grwpiau a sefydliadau corfforaethol a bydd Apêl Prop yn gwario’r arian a godwyd yn y digwyddiad i wneud pethau’n well i’n cleifion ag anafiadau i’r ymennydd, drwy gyflwyno offer synhwyraidd ymhlith gwelliannau eraill.
Cododd y digwyddiad swm aruthrol o £16,000 a fydd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng Apêl Prop a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.
Diolch i Len, Sarah a’u mab Chris am ganiatáu i ni fod yn rhan o deyrnged mor brydferth i Claire, a fyddai wedi bod wrth ei bodd â’r thema Prosecco a Phinc.