Rhoi

Diweddariad bach ar y Ddawns Fasgiau Calan Gaeaf yn dilyn y digwyddiad anhygoel a gynhaliwyd ddydd Gwener 28 Hydref. Cynhaliwyd y Ddawns er budd Apêl Prop sy’n cefnogi cleifion yn Ysbyty Athrofaol Llandochau sy’n dioddef o anaf i’r ymennydd.

Ar ôl bwlch o ddwy flynedd, roeddem yn falch iawn o groesawu bron i 200 o westeion i Mercure Holland House, y mae llawer ohonynt wedi bod yn gefnogwyr hirdymor i Apêl Prop. Roedd y gwesteion yn edrych yn wych ar y noson a chawsom ein syfrdanu gan y gwisgoedd atyniadol ac arswydus!

Cafodd y gwesteion gyfle i fwynhau pryd tri chwrs a disgo, yn ogystal â pherfformiadau byw gan Debbie Chapman Dancers a Black Jam Circus. Ymhlith y perfformwyr roedd Luke Bingham Magic, a wnaeth hudo’r gwesteion gyda’i driciau unigryw.

Codwyd arian ar y noson trwy haelioni cefnogwyr a gymerodd ran yn y raffl, yr arwerthiant tawel a gemau ar y noson. Diolch yn fawr iawn oddi wrth bob un ohonom yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i Noddwyr yr Elusen Wyburn & Wayne a wnaeth arwain y noson, Amy ac Alice, sy’n rhan o’n Pwyllgor Apêl Prop sy’n gwirfoddoli ac a wnaeth weithio mewn partneriaeth â’r Elusen Iechyd i drefnu’r digwyddiad gwych hwn.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i brif noddwyr y digwyddiad, Irwin Mitchell a JCP Solicitors ac i’r busnesau lleol niferus a gyfrannodd wobr i’r raffl a’r arwerthiant. Hoffem hefyd ddiolch i bawb a fynychodd ac a gefnogodd y digwyddiad, gan godi arian at achos mor bwysig.

Ni fyddwn yn cyhoeddi’r cyfanswm terfynol a godwyd eto gan fod rhoddion yn dal i gael eu casglu, ond gallwn ddweud yn hyderus y bu’r noson yn llwyddiant ysgubol!

Rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.