Rhoi

Ym mis Rhagfyr 2020, roedd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn dathlu deng mlynedd o wella pethau i gleifion, ymwelwyr, staff a’r gymuned ehangach.

Roedd yr Elusen Iechyd wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu’r 10 mlynedd, gan edrych yn ôl ar rai o’r prosiectau mawr roedd wedi talu amdanynt a dathlu cyfraniadau pobl a oedd wedi rhoi, wedi codi arian, wedi gwirfoddoli a chyfraniad partneriaid cymunedol yn ystod y degawd. Yn anffodus, bu’n rhaid canslo’r cynlluniau hyn o ganlyniad i’r Coronafeirws. Felly bydd yr Elusen Iechyd yn edrych yn ôl ar sut mae’r bobl sydd wedi codi arian, sydd wedi rhoi, sydd wedi gwirfoddoli a’r partneriaid cymunedol wedi helpu i newid pethau er gwell dros y degawd diwethaf.

Yn 2011, cefnogodd yr Elusen Iechyd nifer o gynlluniau yn y Bwrdd Iechyd yn ariannol:

  • Cafodd Canolfan y Fron arian i uwchraddio’r cyfarpar mamograffeg
  • Talu am fonitors STAN i fonitro ffetws
  • Talu am ystafelloedd tawel i staff gael mynd am seibiant haeddiannol
  • Talu am gyfarpar ar gyfer yr Uned Therapi Dwylo i Gleifion Allanol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau
  • Talu am gadeiriau cysgu er mwyn i rieni allu aros gyda’u plant pan fyddant yn yr ysbyty

Hwb i Gleifion Canser y Fron – Yn 2011, uwchraddiodd yr Elusen Iechyd y peiriannau mamograffeg yng Nghanolfan y Fron er mwyn cael y delweddau 3D diweddaraf. Mae sgrinio’r fron mewn 3D yn gwella sensitifrwydd mamograffeg ar gyfer canfod canserau’r fron, ac yn galluogi canfod canser yn gynharach a phan fydd yn llai o faint, sy’n golygu na fydd angen llawdriniaeth mor ymwthiol.

Eglurodd Dr Philippa Young, Radiolegydd Ymgynghorol: “Mae defnyddio’r peiriannau hyn yn lleihau’r angen i gynnal profion radiolegol eto, gan eu bod yn llawer mwy sensitif. Bydd hyn, yn ei dro, yn lleihau pryder cleifion wrth aros am ddiagnosis.”

Monitors STAN ar gyfer Ffetws – Yn 2011, prynodd yr Elusen Iechyd gyfarpar arloesol i’w ddefnyddio ar y Wardiau Mamolaeth yn ystod genedigaethau. Mae monitors STAN ar gyfer Ffetws yn defnyddio technoleg uwch i ddadansoddi gan fonitro ffetws a chynnal electrocardiogram ar gyfer y ffetws. Mae’n ffordd fwy datblygedig o fonitro babanod yn ystod esgor.

Darparwyd cyfarpar ar gyfer y Gwasanaeth Therapi Dwylo i bobl a oedd yn cael problemau gyda’u dwylo neu rannau uchaf eu breichiau, neu a oedd wedi cael llawdriniaeth neu a oedd yn dioddef o gyflwr gwynegol. Roedd y cyfarpar a ddarparwyd yn 2011 yn cynnwys bar hyblyg ar gyfer y dwylo, bwrdd propriodderbyniaeth, sgrin profion synhwyraidd a choeden fodrwyau unionsyth, ymysg nifer o bethau eraill.

Dywedodd un o’r Technegwyr Therapi Galwedigaethol o’r tîm: “Mae ein gofal yn cwmpasu sawl maes – a gweithgareddau adferol yw un ohonynt. Ein nod yw dysgu cleifion sut mae defnyddio gwahanol eitemau i’w helpu i gael yn ôl i drefn. Mae’r cyfarpar wedi’u dylunio i ddangos i gleifion nad oes rhaid i bethau fod yn anodd iddyn nhw.”

Pobl sy’n Codi Arian – heb bobl sy’n codi arian, fyddai dim o’r uchod wedi bod yn bosibl. Mae staff hefyd yn codi arian i wneud gwahaniaeth i’w wardiau a’u hadrannau. Yn 2011, dringodd aelodau staff Wroleg dri chopa Cymru i godi arian i gael sganiwr pledren.

Aeth grŵp o anturiaethwyr dewr o Uned Wroleg y Clinig i Gleifion Allanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru i fyny i frig yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen-y-Fan.

Dringodd y tîm y tri chopa mewn 24 awr er mwyn codi arian i gael sganiwr pledren newydd, sy’n ddarn hanfodol o gyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio bob dydd yn y clinig i gleifion allanol, er mwyn cynnal archwiliadau. Fe wnaethant lwyddo i godi dros £9,300.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.