Rhoi

Bob blwyddyn dethlir Mis Hanes LHDTC+ ym mis Chwefror, ac rydym ni yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o sefyll ochr yn ochr â’r gymuned hon a bod yn gyfaill i bawb. Mae eleni hefyd yn garreg filltir gan fod 50 mlynedd ers yr Orymdaith Pride gyntaf yn y DU.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi comisiynu llawer o ddarnau o waith celf, o enwogion LHDTC+ a’r cymeriadau y maent wedi’u portreadu ar y sgrin, a gan artistiaid LHDTC+ sy’n awyddus i fynegi eu lleisiau drwy gelf. Yn ddigon addas, y thema ar gyfer Mis Hanes LHDTC+ eleni yw celf, ac mae gennym bedwar darn ysblennydd i’w harddangos trwy gydol mis Chwefror, a grëwyd gan yr artist a Noddwr yr Elusen Iechyd, Nathan Wyburn.

Billy Porter
MJ Rodriguez
Callum Scott Howells
Mark Ashton

Gwnaed y portreadau hyn, ynghyd ag eraill, i dynnu sylw at ddyddiadau pwysig drwy gydol y flwyddyn galendr, o Pride i Ddiwrnod Aids y Byd, Wythnos Profi HIV i Ddiwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol. Yma yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, rydym yn falch o groesawu cynhwysiant a dathlu’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw yn y byd hwn sy’n newid yn barhaus.

Roedd y sioe deledu Pose yn tynnu sylw at gynnydd diwylliant dawnsfa drag tanddaearol Efrog Newydd yn yr wythdegau. Roedd yn hanesyddol yn y byd teledu gan ei fod yn cynnwys y cast mwyaf o actorion trawsryweddol mewn rolau rheolaidd o fewn cyfres, yn ogystal â’r cast cylchol mwyaf o actorion LHDTC+ ar gyfer rôl wedi’i sgriptio. Roedd Billy Porter ac MJ Rodriguez (a welir yn y portreadau) yn actorion rheolaidd yn y gyfres, ac enillodd MJ Rodriguez wobr Golden Globe yn ddiweddar gan olygu mai hi oedd yr actor trawsryweddol cyntaf i’w hennill.

Russell T Davies oedd yn gyfrifol am greu’r ddrama boblogaidd It’s A Sin a oedd yn canolbwyntio ar fywydau criw o ryw bum ffrind yn byw yng nghysgod y pandemig AIDS yn yr wythdegau. Unwaith eto, mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol i’r sgrin fach ac wedi ennill gwobr NTA ar gyfer y Ddrama Orau. Wrth dderbyn y wobr, rhoddodd Russell T Davies araith hardd sy’n crynhoi’r gweithiau celf trawiadol hyn yn berffaith.

“To those we lost.

Those who lived.

Those who learned.

And those we loved.”

Mae’r portreadau hyn ar eu cyfer nhw, a phawb sy’n cefnogi neu sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+.

Os hoffech gyfrannu at ein cronfa LHDTC+, ewch i www.healthcharity.wales/donate

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.