




Mae’n bleser gennym gyflwyno arddangosfa Cysylltiadau Arfordirol: Nofio Gwyllt ac Arfordir De Cymru, sy’n archwilio llawenydd ymdrochi mewn dŵr oer ac yn dathlu arfordir trawiadol De Cymru.
Mae nofio gwyllt, a elwir hefyd yn nofio dŵr agored, yn golygu ymdrochi mewn dŵr naturiol fel llynnoedd, afonydd a’r cefnfor. Mae’n ffordd gyffrous a bywiog o gysylltu â byd natur, ac mae arfordir De Cymru, gyda’i glogwyni garw, cildraethau cudd a baeau tawel, yn cynnig rhai o’r lleoliadau mwyaf syfrdanol ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y DU.
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys casgliad amrywiol o waith celf sy’n cynnig cipolwg unigryw ar fyd nofio. Mae ambell ddarn o waith yn dogfennu cymunedau nofio ac yn rhoi cipolwg ar eu harferion dyddiol. Mae darnau eraill yn cynnig persbectif mwy personol, gan grisialu profiadau unigryw’r artistiaid o ddŵr a manylion cain niferus y tonnau, ewyn, ac organebau sy’n ffynnu ar y lan.
Yn ogystal â’r darluniau cyfareddol hyn o ddŵr a’i agweddau niferus, mae’r arddangosfa hefyd yn archwilio symudiadau cywrain y corff dynol tra yn y dŵr. Mae’r darnau hyn yn cynnig astudiaeth i weithgaredd corfforol cymhleth nofio a’i arlliwiau niferus.
Mae’r arddangosfa hefyd yn talu teyrnged i arfordir trawiadol De Cymru, gyda chyfres o ddarnau sy’n arddangos tirwedd arfordirol ehangach yr ardal. Mae’r darluniau cywrain o wynebau clogwyni cyfarwydd a chymhleth Southerndown ac Ogwr yn rhoi portread cain o’r tirnodau eiconig hyn.
Os ydych chi’n newydd i nofio gwyllt, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ddiogel, ac yn nofio gyda grŵp. Dysgwch am lanw, cerrynt, eich traethau, afonydd a llynnoedd lleol gan nofwyr profiadol. Dyma rai o’r cymunedau nofio lleol: Dawn Stalkers, Watchtower Waders, Taffy Dippers, Barrybados Bathers, Blue Boobies, Blue Tits a Sister Swims. Os nad ydych yn byw yn Ne Cymru, gallwch ddod o hyd i’ch grŵp nofio gwyllt lleol ar http://www.outdoorswimmingsociety.com a gallwch ddysgu mwy ar http://www.wildswimming.co.uk
Diolch i’r holl artistiaid a nofwyr a gymerodd ran: Emily Unsworth White, Francine Davies, Nick Davies, Kate De Leo, Melanie Wotton, Mike Biddulph, Richard James, Sue McDonagh, Sylwia Kuniewska




