Rhoi

Yr wythnos hon, gwnaethom groesawu Hannah Godwin, sy’n codi arian yn rheolaidd, a’i merched Leia (sy’n dal tedi yn y llun) a Thea, sy’n efeilliaid unfath, i Ysbyty Plant Cymru.    Cyflwynodd Hannah 10 oriawr glyfar i’r Athro Orhan Uzun i ddarparu offer ECG symudol i blant eu defnyddio, ac mae hi hefyd wedi bod yn codi arian ar gyfer offer telefeddygaeth i roi diagnosis o gyflwr ar y galon o bell, gan olygu llai o deithiau i’r ysbyty i blant sydd â chyflwr ar y galon.

Mae’r teulu cyfan wedi bod wrthi’n codi arian, gan godi dros £3,000 hyd yma i gefnogi gwasanaethau Cardioleg Bediatrig.

Ganwyd Leia yn 2019 ochr yn ochr â’i gefell unfath Thea. Gan ystyried bod gan eu tad a’u chwaer fawr Gracie gyflyrau ar y galon, archwiliwyd calonnau Leia a Thea yn fuan ar ôl iddynt gael eu geni am unrhyw ddiffygion. Er y canfu twll bach yng nghalon Thea, roedd calon Leia yn berffaith iach.

Yna bu Leia’n brwydro â Syndrom Aml-system Llidiol Pediatrig yn dilyn dal Covid-19 yn gynnar yn 2020. Mae bellach gan Leia gyflwr gydol oes ar y ei chalon, ac er yr ymddengys ei bod yn byw bywyd cwbl arferol, mae angen gofal gan y tîm cardioleg gwych yn Ysbyty Arch Noa arni o hyd.

Dywedodd ei mam, Hannah, “Cafodd Leia ei geni â chalon iach, ond nawr mae angen goruchwyliaeth feddygol agos arni; hoffem sicrhau bod gan ein hysbyty lleol yr offer gorau sydd ar gael.”

Os hoffech chi gyfrannu i gefnogi Hannah a’r gwasanaethau Cardioleg Bediatrig, ewch i’w tudalen codi arian ar-lein Hannah Godwin is fundraising for Cardiff & Vale Health Charity (justgiving.com)

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.