Mae’n bleser gan Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro dderbyn dau ddarn o waith celf gan Sheila Moore, a roddwyd yn garedig gan Gymdeithas Nyrsys Llandochau.
Sefydlwyd Cymdeithas Nyrsys Llandochau (LNA) ar gyfer yr holl nyrsys cymwys a oedd naill ai wedi’u hyfforddi yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, neu wedi gweithio yn yr ysbyty am gyfnod o ddeuddeg mis neu fwy ar ryw adeg yn ystod eu gyrfa. Ffurfiwyd LNA ym mis Mai 1969 ac mae’n gwahodd yr holl nyrsys presennol, a chyn nyrsys, i ymuno â’r gymdeithas i gadw eu cysylltiad â’r byd nyrsio a’r ysbyty yn fyw.
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r LNA wedi cefnogi wardiau ac adrannau amrywiol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau trwy roddion hael. Yn y gorffennol maent wedi cefnogi ward Gorllewin 2, yr Uned Ffeibrosis Systig i Oedolion, y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc, CAVOC, Hafan y Coed, Dwyrain 3 ac Ein Perllan. I nodi eu pen-blwydd yn 50 oed, rhoddodd yr LNA fainc i gleifion a theuluoedd i’w defnyddio ar dir yr ysbyty.
Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch o galon i’r LNA am eu cyfraniadau parhaus a’u hymroddiad i gynnal a chefnogi safle Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Dywedodd Christine Johnson, ar ran LNA: “Ni fyddai Cymdeithas Nyrsys Llandochau yn bod heb flynyddoedd lawer o ymroddiad yr holl aelodau dros 55 mlynedd. Mae’r pwyllgorau trefnu wedi cynnwys y rhan fwyaf o’r aelodaeth fel aelodau swyddogol ac aelodau cyfetholedig ers y dechrau, felly dylid gwerthfawrogi pob un, nawr ac yn y gorffennol, sydd wedi ychwanegu rhywbeth at lwyddiant parhaus a mwynhad y grŵp gwirioneddol wych. Ond eto, ymroddiad a threfnu yw hanfodion nyrsio!”
Dywedodd Dawn Moore, merch yng nghyfraith Sheila, a Chynorthwyydd Gweinyddol AWMGS Caerdydd: “Mae Sheila yn hapus iawn bod y printiau wedi’u gosod. Mae hi bellach yn 86 oed ac yn dal i fod yn un o’r bobl fwyaf caredig, cymwynasgar a meddylgar rwy’n eu hadnabod.”
“Mae ei hiechyd yn fregus, ond mae’n dal i geisio gwneud yr hyn y mae’n gallu i helpu eraill. Y tro diwethaf iddi beintio oedd Tachwedd 2022.”
Mae printiau Sheila bellach yn addurno waliau coridor y Dwyrain yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Hoffai tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch o galon i’r LNA am y rhodd garedig o brintiau Sheila Moore. Mae’r tîm yn hynod ddiolchgar am gyfraniadau hael a gwerthfawr y gymdeithas ar hyd y blynyddoedd, ac yn cydnabod eu hymroddiad i wella bywydau cleifion a staff Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Diolch arbennig hefyd i Dîm Ystadau Ysbyty Athrofaol Llandochau am eu cymorth i osod y darnau o waith celf.