Rhoi

Mae grŵp o staff dawnus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael cydnabyddiaeth am y gwaith celf a grëwyd i ddathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Roedd cystadleuaeth gyntaf Eisteddfod CAF, o dan arweiniad tîm y Gymraeg a Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyflogeion mewn partneriaeth ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, yn gwahodd gweithwyr y Bwrdd Iechyd i gyflwyno gwaith celf i gynrychioli eu ‘Lle Llawen’.

Derbyniwyd ceisiadau yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i ddarlunio lleoliadau ledled Cymru ac ym mröydd pobl, yn ogystal â lleoedd ysbrydol a ddefnyddiwyd i gefnogi lles.

Dewisodd panel o feirniaid y pedwar enillydd canlynol:

  • Joanna Waring, Nyrs Ymchwil Dementia, Ysbyty Athrofaol Llandochau – Darlun a Phrint
  • Dr Nichola Norman, Uwch-wyddonydd Biofeddygol, Ysbyty Athrofaol Llandochau – Brodwaith
  • Stephen Thomas, Swyddog Technegol Labordy, Ysbyty Athrofaol Cymru – Ffotograffiaeth
  • John German, Swyddog y Gadwyn Gyflenwi, Ysbyty Athrofaol Llandochau – Gair Ysgrifenedig

Mae’r gystadleuaeth, sy’n rhan o ymgyrch Meddwl Cymraeg y Bwrdd Iechyd, sy’n annog y defnydd o’r Gymraeg ac yn hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru, yn cadw at y traddodiad o gynnal cystadleuaeth leol, ar raddfa lai i ddathlu’r Eisteddfod Genedlaethol.

Cyflwynwyd tlysau a thalebau Amazon gwerth £50 i enillwyr Eisteddfod CAF, a ariannwyd gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau a’r Elusen Iechyd: “Rydym wedi gweld, trwy ein rhaglen y celfyddydau, sut y gall ymwneud â’r celfyddydau gael effaith gadarnhaol enfawr ar ein lles, felly rydym yn falch o gefnogi’r gystadleuaeth hon ar gyfer ein staff sydd wedi ymdopi â chymaint yn ystod y pandemig COVID-19.

“Mae cymuned celfyddydau ddawnus, fywiog ymhlith ein gweithlu felly nid oedd yn syndod gweld nifer o geisiadau o safon uchel ar gyfer y gystadleuaeth. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran a llongyfarch ein henillwyr, sy’n llwyr haeddu’r gwobrau roedden ni fel Elusen Iechyd yn falch o’u hariannu.”

Dywedodd Nicky Bevan, Pennaeth Gwasanaethau Lles Cyflogeion: “Mae ein staff yn gwneud gwaith anhygoel yn gofalu am ein cleifion, ond ar ôl bod o dan bwysau aruthrol am gyfnod hir o amser ac wrth i ni nesáu at yr hyn rydym yn rhagweld a fydd yn aeaf heriol arall, mae’r un mor bwysig eu bod nhw’n gofalu am eu lles eu hunain.

“Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau fel y celfyddydau yn gallu bod yn adnodd hynod effeithiol i reoli ein hiechyd meddwl, ond byddwn yn annog unrhyw aelod o staff sy’n cael trafferth ac angen cymorth pellach i ofyn amdano – mae’r Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyflogeion yma ac yn barod i helpu os oes angen.”

Dywedodd Rachel Gidman: “Fel un o gyflogwyr mwyaf y brifddinas, mae’n bwysig ein bod ni’n dathlu ac yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant y genedl, sy’n cynnwys y defnydd o’r Gymraeg. Dyma’n union y mae cystadleuaeth Eisteddfod CAF yn ceisio’i gyflawni, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan am helpu i hyrwyddo’r agenda.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am raglen celfyddydau y Bwrdd Iechyd ar wefan y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, neu gefnogi cleifion a staff trwy wneud cyfraniad ar wefan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Mae gwybodaeth am gymorth lles ar gael i staff ar dudalennau gwe y Gwasanaeth Lles Cyflogeion.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.