Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi y bydd un aelod o staff lwcus sy’n rhan o Loteri’r Staff yn gallu ennill y swm anhygoel o £21,000.

Dyma’r swm mwyaf y mae Loteri’r Staff erioed wedi’i ddyrannu ar gyfer un tocyn. Hefyd, bydd cyfle i ennill £5,000 yn y raffl fawr ym mis Mehefin.

Cyflwynwyd Loteri’r Staff ym mis Medi 2005 i godi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro er budd staff a chleifion. Ers hynny, mae’r Loteri wedi mynd o nerth i nerth, a bellach mae cyfle i un aelod o staff ennill £1,000 bob wythnos, yn ogystal â dwy raffl fawr bob blwyddyn!
- Cynhelir y loteri i ennill £5,000 ar ddydd Gwener, 25 Mehefin 2021 – cofrestrwch erbyn 31 Mai 2021 er mwyn i chi gael cyfle i ennill.
- Cynhelir y loteri i ennill £21,000 ar ddydd Gwener, 26 Tachwedd 2021 – cofrestrwch erbyn 29 Hydref 2021 er mwyn cael cyfle i ennill.
Ym mis Tachwedd y llynedd, roedd Scott Quinnell yn gyffrous iawn wrth gyhoeddi mai Anna Jones, Bydwraig Gymunedol, oedd wedi ennill £20,000 yn y raffl fawr – mewn da bryd ar gyfer y Nadolig.
Dywedodd Anna: “Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth pan gefais yr alwad gan Scott Quinnell. Mi gymerodd amser i’r newyddion suddo! Roedd ennill Loteri’r Staff yn hwb hyfryd mewn da bryd ar gyfer y Nadolig.”
Gall pob aelod o staff y Bwrdd Iechyd ymuno yn Loteri’r Staff. Gallech ennill £1,000 a hynny am gyn lleied â £1 yr wythnos.
Cofiwch fod yr arian rydych yn ei gyfrannu i Loteri’r Staff yn helpu prosiectau elusennol ar draws y Bwrdd Iechyd hefyd. Mae pob ceiniog o elw’n mynd i’n cronfeydd elusennol, a gallai eich adran neu faes gwaith elwa o hyn drwy wneud cais.
Er mwyn bod yn gymwys i ennill y raffl fawr sy’n cael ei chynnal ar 25 Mehefin 2021, rhaid i chi gofrestru ar gyfer Loteri’r Staff erbyn 31 Mai 2021.
Er mwyn bod yn gymwys i ennill y raffl fawr sy’n cael ei chynnal ar 26 Tachwedd 2021, rhaid i chi gofrestru ar gyfer Loteri’r Staff erbyn 31 Hydref 2021.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ymuno â Loteri’r Staff, llenwch y ffurflen ar-lein yma: https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery