Mae gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ar y cyd â’r ymgyrch Symud Mwy, Bwyta’n Iach, grysau-t newydd ar gael, wedi’u creu o boteli plastig wedi’u hailgylchu.
Symud mwy a bwyta’n iach yw sylfeini ffyrdd iachach, mwy actif o fyw. Mae cynllun partneriaeth #SymudMwyBwyta’nIach, a ddyluniwyd gyda’r uchelgais o gefnogi unigolion a sefydliadau ar draws Caerdydd a’r Fro i ddewis ffyrdd iachach o fyw, wedi’i ddatblygu gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Caerdydd a’r Fro) i sicrhau mai dod o hyd i fwyd iach, cynaliadwy a gweithgareddau lleol yw’r opsiwn hawdd.
Drwy annog eraill i wneud newidiadau gweithredol, mae’r cynllun partneriaeth #SymudMwyBwyta’nIach yn rhannu straeon gan y rhai hynny sy’n symud mwy ac yn bwyta’n iach ar draws meysydd blaenoriaeth amrywiol.
Anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk os oes gennych ddiddordeb mewn codi arian ar ein cyfer ac fe gewch chi grys-t am ddim, neu gallwch chi brynu crys-t am £10.