Fel rhan o’r strategaeth barhaus i leihau gwastraff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cyflwynodd y Tîm Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau finiau ailgylchu ar gyfer pecynnau creision nôl ym mis Tachwedd 2019, a ariannwyd gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy a mwy o fannau ailgylchu plastig hyblyg wedi’u sefydlu mewn archfarchnadoedd ledled y wlad, gan greu rhwydwaith o fwy na 3,500 o fannau casglu erbyn heddiw. Mae hyn yn golygu y gellir gollwng pecynnau creision i’w hailgylchu, ynghyd â phob math arall o blastig hyblyg, yn unrhyw un o’r mannau ailgylchu mewn archfarchnadoedd.
Yn sgil hyn, mae’r Cynllun Ailgylchu Pecynnau Creision yn cau ar 25 Ebrill 2022. Dewch â’ch pecynnau gwag mewn da bryd fel y gallwn eu hanfon i TerraCycle cyn i’r cynllun gau. Unwaith y bydd y cynllun ar gau, gellir ailgylchu pecynnau creision drwy’r rhwydwaith o fannau casglu plastig hyblyg. Ewch i weld y Lleolydd Ailgylchu gan Ailgylchu Nawr i ddod o hyd i’ch un agosaf.
Diolch am ailgylchu eich pecynnau creision gyda ni! Drwy wneud hynny, rydych wedi cyfrannu’n weithredol at amcanion cynaliadwyedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.