Rhoi

Diolch i Jenna a Chris Sparkes a gyfrannodd amrywiaeth fawr o de, coffi, bisgedi a chynhyrchion cegin eraill yn ddiweddar i helpu i gefnogi teuluoedd y mae eu plant yn cael eu trin yn yr Uned Gofal Dwys Pediatrig, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru (PICU).

Dychwelodd y teulu i’r uned i gwrdd â Nichola a chydweithwyr eraill o’r Bwrdd Iechyd a oedd yn eu cefnogi yn ystod cyfnod mor anodd.

Yn ogystal, fe wnaethant roi £1,134 i’r uned, a godwyd yn ystod bore coffi diweddar, i gydnabod y gofal a ddarparwyd iddynt hwy a’u mab Henry, a fu farw’n drist iawn yn sgil cyflwr critigol. Mae’r teulu hefyd wedi cefnogi Elusen Plant Arch Noa ac Elusen Ronald McDonald House dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Gan barhau â’u cefnogaeth i PICU, mae mam Jenna, Trudy, wedi trefnu i blymio o’r awyr yn Abertawe a bydd Chris yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref eleni.

Maent yn sianelu eu tristwch aruthrol i weithredu’n gadarnhaol, gan godi arian tuag at achosion sy’n agos at eu calonnau. Yn eu galar, maent wedi ymrwymo i gadw’r atgof am Henry yn fyw.

Os hoffech chi gyfrannu a chefnogi, ewch i – Jenna sparkes is fundraising for Cardiff & Vale Health Charity (justgiving.com)

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.