Rhoi

Mae’r teulu Williams wedi lansio ymgyrch codi arian yn ddiweddar er cof am fab, brawd, ffrind a chydweithiwr annwyl, Benji Mallett-Williams a fu farw, yn drist iawn, ar 25 Rhagfyr 2023 yn 34 oed.

Cafodd Benji, cydweithiwr ymroddedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ddiagnosis o ddiabetes math 1 yn ôl yn 2001 pan oedd yn 12 oed. Drwy gydol ei daith, rhoddodd tîm Diabetes Pediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gefnogaeth ddiwyro i Benji a’i deulu wrth iddynt ymdopi â’r heriau a wynebwyd o ganlyniad i’r diagnosis.

I ddangos eu gwerthfawrogiad o ofal gwych ac ymroddiad y tîm Diabetes Pediatrig, mae’r teulu Williams yn croesawu rhoddion a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gefnogi’r adran. Mae’r tîm yn gweithio’n ddiflino i gefnogi, gofalu, addysgu, ac eirioli nid yn unig ar ran plant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes, ond hefyd ar ran eu teuluoedd.

Dywedodd Kimberly Williams: “Cafodd Benji drafferth trwy gydol ei fywyd fel oedolyn yn rheoli ei ddiabetes, yn ogystal â chymhlethdodau meddygol cysylltiedig. Felly, hoffem ni fel teulu i’r holl arian a godir i gynorthwyo’r rhaglenni addysgol parhaus a’r cymorth a ddarperir i’r teulu gan y tîm diabetes ar reoli diabetes yn gadarnhaol, ac i osod y sylfeini sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i fyw bywyd hapus ac iach, er gwaethaf diagnosis o ddiabetes.”

“Hoffem ni fel teulu ddiolch i chi ymlaen llaw am unrhyw roddion hael. Rydyn ni’n ymwybodol o’r gwahaniaeth enfawr mae’r tîm hwn yn ei wneud i blant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes.”

Mae’r teulu Williams yn gwahodd pawb i ymuno â nhw i anrhydeddu a chofio am Benji trwy gyfrannu at yr achos hwn, gan sicrhau bod y tîm Diabetes Pediatrig yn BIPCAF yn parhau â’r gwaith hanfodol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc a theuluoedd y mae diabetes yn effeithio arnynt.

I gyfrannu, ewch i dudalen JustGiving.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.