Rhoi

Claire Halliday a fydd yn cymryd rhan yn hanner marathon mwyaf y byd, The Great North Run ym mis Medi.

Mae Claire yn glaf yng Nghanolfan y Fron sydd wedi dewis gwneud y Great North Run er budd Apêl Canolfan y Fron.  Yn ei geiriau ei hun, dyma pam…

“Mae Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn trin rhwng 450 a 500 o gleifion canser y fron newydd bob blwyddyn.

Roeddwn i’n un o’r cleifion hynny yn 2020.   Mae’r gwasanaeth a ddarperir ganddynt yn mynd y tu hwnt i’r diagnosis a’r driniaeth ddilynol gan y GIG.  Mae rhoddion i’r ganolfan yn darparu bras arbennig ar gyfer cleifion mastectomi ac adlunio ac yn cynnig therapïau cyflenwol a sesiwn hyder.  Mae rhoddion hefyd wedi darparu ffisiotherapydd ar gyfer sesiynau un i un fel gwasanaeth rhagnodi ymarfer corff, y cyntaf o’i fath yng Nghymru a champfa i gleifion allanol sy’n cael llawdriniaeth ar gyfer canser y fron.  Rwy’n mynychu’r Grŵp Ffitrwydd Rhuban Pinc sy’n cynnig dosbarthiadau ymarfer corff a nofio am ddim, teithiau cerdded grŵp a chyfle i unrhyw un sydd wedi profi canser y fron gyfarfod ag eraill yn yr un sefyllfa.  Grŵp cymorth gwych sy’n cael ei redeg gan staff gwych”.

Rydym yn dymuno pob lwc i Claire.  Os hoffech gyfrannu a chefnogi Claire a Chanolfan y Fron, gallwch wneud hynny yma http://www.justgiving.com/Claire-Halliday9

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.